Gwneud y gorau o eglwysi Sir Benfro
Mewn canllaw ar-lein newydd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, ar gyfer ymwelwyr, mae 19 o eglwysi mwyaf ysbrydoledig Sir Benfro yn cael sylw amlwg.
Mae'r canllaw - sy'n rhan o fenter "Archwilio Eglwysi" yr Ymddiriedolaeth - yn cwmpasu pob un o'r pymtheg Parc Cenedlaethol yn y DU, ac mae'n cynnwys manylion dros 200 o eglwysi a chapeli. .
Yn adran Sir Benfro, mae capel eiconig St Govan, Boshertson, eglwys fechan St Julian yn Ninbych y Pysgod a Chadeirlan Tyddewi, wrth gwrs.
Mae'r awdur, Bill Bryson, sy'n is-lywydd yr Ymddiriedolaeth, yn eu disgrifio fel "Ymgorfforiad o bethau gorau Prydain. Amhosib yw gorbwysleisio pwysigrwydd eglwysi i'r wlad hon. Ni cheir unrhyw adeilad arall sydd â'r 'un soniaredd emosiynol ac ysbrydol, y rhagoriaeth pensaernïol a'r cadernid hynafol a geir mewn eglwys blwyf."