Cyfarwyddwr Cerdd newydd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mae Deon a Siaptr Cadeirlan Tyddewi wedi apwyntio Mr Simon Pearce yn Organydd a Meistr y Coryddion, neu'n Gyfarwyddwr Cerdd.
Bu Simon yn Is-Gyfarwyddwr Cerdd yn Nhyddewi ers 1998, gan gyfeilio mewn nifer o ddarllediadau radio a theledu, yn ogystal ag ymweliadau Brenhinol a digwyddiadau pwysig eraill.
"Mae'r apwyntiad yn anrhydedd ac yn fraint enfawr," medd Simon. Mae gan Gôr y Gadeirlan a'r Sefydliad Corawl enw rhagorol ac rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar waith caled a llwyddiant fy rhagflaenwyr. Rwyf wrth fy modd yn cael parhau i weithio gyda thîm o gerddorion a chydweithwyr mor ddisglair, yn y bennod nesaf o'n bywyd cerddorol. Mae Cadeirlan Tyddewi yn le hardd ac ysbrydoledig i greu cerddoriaeth, ac mae ganddi gysylltiad arbennig iawn gyda'r ddinas, y gymuned leol a'r ysgol, yn ogystal ag ar draws Sir Benfro a thu hwnt. Rwy'n falch iawn fy mod yn byw ac yn gweithio yma. "
Wrth gyhoeddi'r apwyntiad, dywedodd Deon Tyddewi, Y Tra Pharchedig Ddr Sarah Rowland Jones, "Bu'n bleser cael mwynhau cyfeilio ac arweinyddiaeth Simon dros y blynyddoedd. Rydym ni'n hynod falch yn awr mai ef fydd ein Organydd a Meistr y Coryddion."
Mae Simon yn briod â Katherine, sy'n gweithio i Adran Addysg y Sir, ac mae ganddynt dri o blant - Christian a Harriet (sy'n goryddion) ac Alexandra. Bydd Simon yn cychwyn ar y swydd yn syth, ond caiff ei dderbyn fel Meistr y Coryddion mewn gwasanaeth Hwyrol Weddi arbennig ar nos Sul y 13eg o Fawrth, am 6pm.