Penodi Cenhadwr newydd ar gyfer Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Mae'r Parch. Sophie Whitmarsh wedi'i phenodi'n Genhadwr yr Esgobaeth ar gyfer Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, ac yn Offeiriad â Gofal yn AGLl Daugleddau, â gofal bugeiliol dros Wiston, Walton East a Llawhaden.
Ar hyn o bryd mae Sophie yn Is-Ganon (Curad Cynorthwyol) yng Nghadeirlan Tyddewi, a bydd ei chyfnod yno yn dod i ben ar Ddydd Sul y 13eg o Chwefror, cyn iddi symud i Ficerdy Llawhaden. Fe gaiff ei thrwyddedu gan yr Esgob yn Eglwys Sant Aidan, Llawhaden ar Ddydd Iau y 24ain o Fawrth, am 7 o'r gloch.
Bydd Sophie yn gweithio ochr yn ochr â thasglu a gomisiynwyd gan yr Esgob Joanna, yn 2019, i edrych ar y gwaith sy'n cael ei wneud gyda phlant, ieuenctid a theuluoedd yn yr esgobaeth, gyda chynrychiolwyr o Fwrdd y Cyfarwyddwyr Addysg, Cyngor yr Esgobaeth ar gyfer Cyfrifoldeb Cymdeithasol, Plant Dewi, y 4ydd Archddiaconiaeth ac unigolion eraill sydd â'r arbenigedd a'r diddordebau priodol.
Y briff yw i ddod â'r holl elfennau gwahanol ym meysydd plant, ieuenctid a theuluoedd at ei gilydd er mwyn darparu dull mwy holistig ar gyfer y dyfodol.
Gofynnir i chi weddïo dros ei gŵr, Andy, a'r merched, Chloe, Katie a Rachel wrth iddynt baratoi i symud i'w cartref newydd, ac i weddïo'n arbennig dros Sophie wrth iddi ymgymryd â'i rôl newydd fel Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn yr Esgobaeth, yn ogystal â'i rôl newydd fel Offeiriad â Gofal. Gweddïwch dros yr eglwysi bydd yn ei gofal hefyd os gwelwch yn dda.