Arian yn y banc babi
Bydd cannoedd o deuluoedd ifanc o bob rhan o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn derbyn hanfodion i'w plant diolch i grant gan Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru i elusen Plant Dewi.

Bydd y grant o £60,000 gan Sefydliad Elusennol y Seiri Rhyddion yn cefnogi prosiect y Banc Bwndel Babi i barhau i ddosbarthu hanfodion mawr eu hangen i deuluoedd â babanod dan 12 mis oed sy'n cael trafferth prynu dillad, taclau molchi, blancedi, cotiau a bygis ac ati. Bydd y prosiect yn derbyn atgyfeiriadau gan deuluoedd ac asiantaethau ledled y rhanbarth i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw fabi fynd heb.
Cyflwynwyd y siec i reolwr Plant Dewi, Catrin Eldred, gan Uwch Feistr Gorllewin Cymru, James Ross, mewn seremoni yng Nghadeirlan Tyddewi ym mhresenoldeb yr Esgob, y Gwir Barchedig Dorrien Davies.

Rhoddodd Banc Bwndel Babi Plant Dewi 308 o fwndeli i deuluoedd mewn angen yn 2024 ac mae disgwyl i hyn barhau am ddwy flynedd arall diolch i'r Seiri Rhyddion.
Bydd y grant yn ariannu cyflogau a stoc ar gyfer y Banc Bwndel Babi am ddwy flynedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, mae Plant Dewi yn gobeithio cynyddu nifer ei ganolfannau ym mhob sir a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr i gefnogi'r galw cynyddol am y prosiect. Mae gwirfoddolwyr yn helpu i roi trefn ar roddion yn ogystal â pharatoi bwndeli pwrpasol, yn dibynnu ar anghenion pob teulu.
Mae'r Banc Bwndel Babi yn derbyn rhoddion o eitemau newydd a gwerthfawr o ansawdd da gan deuluoedd a chefnogwyr ar draws y rhanbarth ac, yn fwy diweddar, mae nifer o grwpiau wedi bod yn gwau ar gyfer y prosiect, yn gwneud bagiau ac yn trefnu digwyddiadau codi arian i fynd allan i brynu stoc mawr ei angen.
Mae tua 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac roedd bron i 57 y cant o'r atgyfeiriadau a dderbyniwyd am fwndeli y llynedd gan deuluoedd sy'n wynebu anawsterau ariannol. Ymhlith y rhesymau eraill a nodwyd dros atgyfeirio roedd cam-drin domestig, materion iechyd meddwl, problemau iechyd cyffredinol, diffyg cefnogaeth deuluol a byw mewn llety dros dro. O'r rheini, roedd 42 y cant yn rhieni ifanc, dan 26 oed.
Meddai Catrin Eldred, Rheolwr Plant Dewi:
"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru am eu grant hael. Mae Plant Dewi wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd ers 22 mlynedd ac ers sefydlu'r prosiect Banc Bwndel Babi yn 2016, rydyn ni wedi gweld y galw am ein gwasanaethau'n cynyddu'n fawr. Mae'r grant hwn yn ein galluogi i sicrhau'r Banc Bwndel Babi am ddwy flynedd arall, ar adeg lle rydyn ni’n gweld teuluoedd yn wynebu mwy o galedi ariannol."
Meddai James Ross, Uwch Feistr Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu helpu Plant Dewi gyda'u cymorth hanfodol i deuluoedd â babanod newydd. O ddarparu dillad babanod, cotiau a phramiau i helpu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau hanfodol gan asiantaethau eraill, mae gwaith gwych yr elusen hon wedi helpu cannoedd o deuluoedd ym mhob cwr o'r rhanbarth."