Yr Hybarch Hywel Jones
Cawsom i gyd sioc enfawr i glywed am farwolaeth Hywel Jones, oedd yn Ficer Llanbadarn Fawr 1979-92 ac yn ogystal Ficer Capel Bangor a Goginan rhwng 1982. Roedd yn Archddiacon Ceredigion o 1990 i 2006.
Roedd yn Warden Darllenwyr hefyd am ugain mlynedd gan ddechrau yn 1982.
Mae pawb ar draws Bro Padarn yn adnabod ‘yr Archddiacon’, un oedd bob tro yn barod i helpu a defnyddio ei amser hir o wasanaethu i gynnig cyngor i’r rhai oedd yn ei ofyn amdano, ac weithiau heb ei ofyn!
Estynnwn ein cydymdeimladau at Anne, ei weddw, a’u plant, Matthew ac Elin a’r holl deulu.
Cyn iddo ddod i’r ardal hon roedd Hywel yn Gurad yng Nghaerfyrddin S. Pedr ac wedyn fe benodwyd yn Ficer Cynwyl Gaeo, Llansawel a Thalyllychau. Yn ystod ei waith yn Archddiacon roedd hefyd yn Ficer
Llanychaearn gyda Llanddeiniol.
Trefnir ei wasanaeth angladd ar Ddydd Mercher 7fed o Fedi am 1yp yn
Eglwys Padarn Sant gyda thraddodiant preifat i’w ddilyn yn yr amlosgfa.