Y Corff Llywodraethol yn cefnogi galwad yr Esgob Joanna am Argyfwng Hinsawdd
Mae aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi cefnogi cais yr Esgob Joanna i ddatgan argyfwng hinsawdd yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn ogystal, pleidleiswyd o blaid cynllunio i'r Eglwys gyfan anelu at ddiddymu allyriadau carbon, erbyn 2030 yn ddelfrydol.
Grwp amgylcheddol yr Eglwys, CHASE (Church Action for Sustaining the Environment), sy'n cael ei gadeirio gan yr Esgob Joanna, oedd yn gyfrifol am y ddau gynnig uchod.
Dywedwyd, "Rydym yn cydnabod bod ymateb byd-eang i gynhesu byd-eang yn angenrheidiol, a bod hwnnw'n ymateb brys a buan. Calonogol yw gweld y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaladwy ac adeiladau sy'n ddi-garbon, fel dulliau o liniaru'r argyfwng hinsawdd. Rydym yn cefnogi penderfyniadau llywodraethau, cynghorau a sefydliadau ar draws Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod targedau i ostwng allyriadau carbon eu hardaloedd lleol, i sero. Trwy gael cynllun gweithredu, fe ddylai'r Eglwys yng Nghymru ymdrechu i leihau allyriadau carbon ei gweithgareddau, cyn gynted â bod modd."
Roedd y cynnig hefyd yn awyddus i gynllun gweithredu gael ei baratoi, yn amlinellu sut y gallai'r Eglwys yng Nghymru gyrraedd y pwynt hwn erbyn 2030 neu pryd bynnag fyddai'n ymarferol bosib ar ôl hynny.
Cyflwynwyd ail gynnig, gan Gorff y Cynrychiolwyr, i Bolisi Buddsoddiad Cymeradwy yr Eglwys gael ei ddiwygio fel na fyddai unrhyw fuddsoddiadau yn cael eu gwneud mewn i unrhyw gwmni sydd â mwy na 5% o'i incwm yn dod o gynhyrchu neu gloddio tanwydd ffosil, a bod hyn yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn.
Derbyniwyd y ddau gynnig gan fwyafrif llethol.
Croesawodd Esgob Tyddewi y penderfyniad gan ddweud, " Mae'r Corff Llywodraethol wedi ymuno gydag eraill ac wedi datgan Argyfwng Hinsawdd. Rydym wedi rhoi'r dasg o baratoi cynllun gweithredu erbyn Ebrill 2022, i'n Pencampwr Newid Hinsawdd - Julia Edwards, fel y gallwn fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae'r Corff Llywodraethol wedi cychwyn drwy leihau ein buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil i 5% yn unig. Wrth i ni ddysgu sut i fod yn ddi-garbon, gallwn weithredu'r gwersi yma yn ein cartrefi a gweithio gyda phartneriaid yn ein cymunedau. Rydym wedi agor ein llygaid: does dim amser i'w wastraffu. Mae hwn yn argyfwng.”