Cymorth brys i Gaza
Cymorth Cristnogol yn lawnsio apel argyfwng i helpu y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y trais dwys ar draws Israel a Thiroedd y Meddiant.
Mae partneriaid y mudiad datblygu rhyngwladol yn Gaza yn datgan bod y sefyllfa yn ‘gwaethygu’n ddifrifol’.
Dydwedodd Pennaeth Cymorth Cristnogol dros Y Dwyrain Canol, William Bell: “yn dilyn yr erchyllterau yn erbyn dinasyddion Israel dros y penwythnos diwethaf, mae ymateb milwrol Israel yn Gaza yn creu argyfwng dyngarol sy’n dwyshau ac yn bygwth bywydau mwy na dwy filiwn o fobl.
Eglurodd Mr Bell bod ataliadau a gwrthdaro gwasgarog dros 16 o flynyddoedd yn golygu bod pobl Gaza yn barod yn profi lefelau uchel o dlodi, diweithdra, trais ac ansicrwydd.
Meddai: “mae diffyg dwr, bwyd, trydan a gweithredoedd milwrol dwys yn rhoi bywyd pobl mewn perygl.
Wrth i’r trais a’r dinistr barhau, mae’r mudiad yn lawnsio apel i help’r rhai sy’n cael eu heffeithio.
Mae’n partneriaid yn Gaza wedi dweud bod ysbytai yn orlawn gyda chleifion, mae siopau yn rhedeg allan o nwyddau fel bara a bwydydd ar gyfer babanod”.
Aeth ymlaen i egluro: “mae’n partneriaid yn barod i ymateb gyda chymorth meddygol a chymorth i gymunedau fel bwyd, llochesi, anghenion hylendid a diogelwch.
Mae Cymorth Cristnogol yn gweitho ochr yn ochr a phartneriaid lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai mewn angen. Mae pob cyfraniad yn mynd i wneud gwahaniaeth; mae £6 yn talu am becyn hylendid tra bod £37 yn talu am becyn bwyd i deulu o bump yn Gaza.
Er mwyn gwneud cyfraniad, ewch i dudalen Middle East Crisis Appeal ar ein gwefan os gwelwch yn dda. Christian Aid website.
Mae un o bartneririad Cymorth Cristnogol yn rhybuddio bod y sefyllfa yn dwyshau ac yn dweud: “nid yw’n hawdd symud, hyd yn oed i dy cymydog. Rydym yn ceisio goroesi ar hynny o fwyd sydd gennym”.
Mae mudiad lleol arall yn disgrifio’r awyrgylch: “wnaethon ni ddim cysgu neithiwr. Mae gennym gymaint o ofn. Mae miloedd ar filoedd o deuluoedd yn ceisio lloches mewn ysgolion ond mae llawer o deuluoedd erbyn hyn yn byw ar y strydoedd”.
Dywedodd Michael Mosselmans, Pennaeth Dyngarol Cymorth Cristnogol: “Rydym yn bryderus iawn ynglyn ar nifer o farwolaethau a maint y dinistr ar draws Israel a Thiroedd y Meddiant. Gyda isadeiledd yn cynnwys ysbytai a chartrefi yn cael eu targedu rydym yn gweld cannoedd o filoedd o fobl heb le saff i fyw, heb fynediad i ddwr glan a charffosiaeth effeithiol i arbed y risg o afiechydon”.
Mae Cymorth Cristnogol felly wedi lawnsio apel er mwyn cryfhau’r gefnogaeth y gallwn gyflawni drwy ein partneriaid profiadol lleol i’r bobl sydd wedi colli eu cartrefi, eu bywoliaeth a’u hanwyliaid. Mae pob gweddi, pob rhodd, pob gweithred yn dod a gobaith i bobl mewn argyfwng”.
Mae’r mudiad dyngarol hefyd yn erfyn ar Lywodraeth y DG i ymrwymo i ddiogelu cymorth i Balestiniaid ac yn galw am sefydlu mynediad dyngarol diogel a chyflym.
Meddai Rheolwr Polisi, Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol, Osai Ojigho: “rhaid i bawb gadw cyfraith rhyngwladol dyngarol a chytuno yn ddi-amod i warchod pobl a gwasanaethau allweddol, gan gychwyn gyda sefydlu mynediad dyngarol saff fel mae’r CU wedi gofyn. Gyda poblogaeth Gaza yn barod ar ei gliniau, ni all Llywodraeth y DG dorri’r cymorth ar gyfer pobl Palestina. Rydym angen yr ymrwymiad yma heddiw. Wrth i ni weddio am ddiwedd ar y gwrthdaro, rhaid i arweinwyr rhyngwladol hefyd weithredu i helpu sefydlu heddwch parhaol sy’n arwain at gyfiawnder ac urddas i bawb.”