Brwydro yn erbyn newid hinsawdd: Sialens yr Esgob
Mae'r Esgob Joanna wedi gosod her i bawb cyn y gynhadledd bwysig ar newid hinsawdd, a gynhelir ym mis Tachwedd.
Glasgow fydd lleoliad y gynhadledd COP26, a gynhelir gan Lywodraeth y DU. Gan ddechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae hi'n gwahodd unrhyw un i ymuno gyda hi mewn pererindod rithiol, er mwyn cerdded y 408 milltir o Dyddewi i Glasgow yn ystod y naw mis nesaf.
“Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd,” medd yr Esgob, “ond eleni mae'r gynhadledd yn bwysicach nag erioed gan ein bod ni'n rhedeg allan o amser i ffrwyno'r tymheredd byd-eang. Felly rwy'n gosod yr her yma i bawb. Os y gwnawn ni i gyd gerdded dwy filltir y dydd rhwng Dydd Gŵyl Dewi a'r 1af o Dachwedd, byddwn wedi cerdded y 408 milltir sef y pellter o Dyddewi i Glasgow. Yn amlwg, ni allwn gerdded i Glasgow yn ystod y cyfnod clo, ond gallwn ddefnyddio ein amser ymarfer corff dyddiol i gerdded o gwmpas ein cymunedau neu hyd yn oed ein gerddi. Rydym ni'n awyddus i godi ymwybyddiaeth am y peryglon sy'n wynebu y blaned a roddwyd yn ein gofal gan Dduw; mae angen i ni weithio - a cherdded - gyda'n gilydd i gadw'r blaned hon yn ddiogel ar gyfer holl greaduriaid Duw - yn cynnwys ni ein hunain a'r cenhedloedd i ddod."