Brecwast Gorau Cymru
Derbyniodd Ysgol Sant Marc G.C ym Mhont Myrddin, Hwlffordd, deitl "Y Clwb Brecwast Gorau yng Nghymru" fel rhan o Wobrau Clwb Brecwast Kellogg's 2021 yn ddiweddar.
Mae'r cynllun gwobrwyo yn agored i holl glybiau brecwast ysgolion y DU.
"Mae darparu brecwast i'n plant bob bore yn bwysig iawn i ni," medd pennaeth yr ysgol, Y Parch Heather Cale, "rydym ni'n awyddus i sicrhau bod ein plant yn barod i ddysgu. Mae cael lle diogel i fwynhau brecwast maethlon, chwarae gemau gyda'u ffrindiau a sgwrsio gyda staff cyn i'r ysgol gychwyn yn ddechreuad grêt i'r diwrnod. Rydyn ni'n dîm sydd wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth i blant ein hysgol, ac fe fydd y wobr hon yn ein galluogi i gyfoethogi profiad y Clwb Brecwast i'n plant."