Cysylltiadau Hynafol: Prosiect Celf Gyhoeddus
Yn galw arlunwyr! Comisiwn newydd ar gyfer celf gyhoeddus i Ferns a Thyddewi.
Mae Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Wexford yn awyddus i apwyntio artist neu artistiaid i greu dau ddarn o gelf cyhoeddus newydd, un yn Ferns ac un yn Nhyddewi, fel rhan o'r Cysylltiadau Hynafol gyda chyllideb o €175,000 i gynnwys yr holl gostau.
Rhaid i'r gweithiau celf fod wedi'u cysylltu mewn rhyw ffordd, naill yn weledol neu drwy gysyniad, ac mae'n rhaid iddynt fod wedi'u creu o ddeunyddiau cynaladwy. Croesawir cydweithio rhwng siroedd.
Cyflwynir y cytundeb mewn dau gam. Cam 1 yw'r Alwad Agored ar gyfer Mynegi Diddordeb. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cynnig artistig i'r brîff, nid cynnig cynllun.
Bydd 5 artist yn cael eu dewis wedyn gan banel traws-sirol, ar gyfer y rhestr fer. Yna, fe wahoddir yr artistiaid yma i ymweld â'r lleoliadau, cyfarfod â chymunedau a datblygu cynlluniau a chynigion yn ymwneud â'r gost.
Telir ffî o €1500 i'r artistiaid yma.
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 21 Medi.
RHAID cyflwyno popeth yn ogystal ag unrhyw ymholiadau drwy https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml
Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru. Ar ôl logio mewn gellir gweld y brîff llawn a'r holl fanylion yn yr adran PQQ.
Chwiliwch yn yr adran "PQQ open to all suppliers" ac edrychwch am "Procurement of Public Art Pieces for Ancient Connections".