Neges Pasg o Esgobaeth Tyddewi
Annwyl Ffrindiau,
Y mae’r Pasg yn adeg pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd fel Cristnogion, i roi clod a gogoniant i Dduw am wyrth yr Atgyfodiad. Yn dilyn Ei fradychiad, prawf, a marwolaeth, cododd Duw yr Iesu gorfoleddus i fuddugoliaeth bywyd. Heddiw, yr ydym yn rhannu gyda Christnogion ar draws y byd lawenydd y wyrth hon, sy’n ein cyfeirio at y newyddion da a gobaith y gallwn ninnau hefyd gyfranogi yn Ei fuddugoliaeth dros bechod a marwolaeth. Y mae neges y Pasg yn cadarnhau cariad a gras di-ddiwedd Duw ac yn sylfaen angenrheidiol y ffydd Gristnogol.
1 Pedr 1:3 “ Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd fe barodd ef ein geni o’r newydd i obaith bwyiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw”.
“ Atgyfododd! Atgyfododd yr Arglwydd yn wir!” Ym mywyd Crist, gwnaethpwyd popeth yn newydd. Yng nghefndir y Pasg, er ei fradychiad, gwrthod, gwadiad ei ffrindiau, cyhuddiadau drygionus a gau yn ei erbyn, ac yn y pendraw Ei farwolaeth ar y groes, y mae Duw yn sicrhau bod llawenydd, heddwch a chariad yn gorchfygu dros gasineb, drygioni, tristwch, anrhefn, ac hyd yn oed marwolaeth.
Ym mysg yr anawsterau yr ydym yn eu hwynebu, y mae Duw o hyd yn symud at ein codi o amgylchiadau arswydus sydd o’n blaenau, gan ein codi i fan gwell mewn bywyd. Hyd yn oed wrth i ni wynebu cyfnodau anodd a heriol, y mae Ef yno yn estyn atom obaith am fywyd newydd ynddo Ef.
Colosiaid 1:13-14 “ Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a’n trosglwyddo i deyrnas Ei annwyl Fab ,yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau”.
Heddiw, yr ydym yn cadarnhau ein gobaith yn Atgyfodiad yr Iesu, a chawn sicrwydd y bydd Duw, beth bynnag fydd yr heriau yn ein wynebu, yn dal i fod gyda ni, yn ein caru a’n dal yn Ei Ras. Yn ein holl brofiadau bywyd yr ydym yn sicr y bydd Ef yn ein harwain, ein hannog ac yn ein dal wrth i ni symud ymlaen yn Ei fywyd a chariad. Yn yr ymddiried sy gennym yn Ei addewid, y mae ein ffydd yn ein galluogi i oresgyn pob her. Yn ein cartrefi, amgylchiadau gwaith, eglwys, Esgobaeth neu genedl, gadewch i ni gymeradwyo ein hunain, ein holl fywydau i Dduw, wrth i ni symud ymlaen mewn ffydd i wynebu holl heriau’r dyfodol.
Datguddiad 1 17b-18b “Paid ag ofni! Myfi yw’r Cyntaf a’r Olaf. A’r un byw. Bûm farw, ac wele – yr wyf yn fyw byth bythoedd”.
Yr ydym i gyd mor ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydych yn ei roi, a’r gweinidogaethu gwych yr ydych yn ei gynnig. Yr ydym yn llawenhau yn y gyfeillach yr ydym yn ei rhannu gyda chi, ac yn clodfori Duw am bopeth a wnewch a’r aberth a wnewch yn enw’r Crist Atgyfodedig. Bydded i chi fwynhau Pasg Bendithiol a thangnefeddus, ac a wnewch chi wneud amser i orffwys wedi’r cyfnod prysur hwn i chi a’ch eglwysi
Yng Nghrist,
Eileen, Archddiacon Aberteifi
Paul, Archddiacon TyDdewi
Dorrien, Archddiacon Caerfyrddin
Mones, Archddiacon Cymunedau Eglwysi Newydd.