Ffenestr ar y Seintiau Cymreig
Mae llyfr newydd a gyhoeddir ar Ddydd Gŵyl Dewi yn cyflwyno amrywiaeth syfrdanol o ddelweddau o seintiau o eglwysi ledled Cymru.
Mae seintiau cynnar Cymru wedi dod yn rhan annatod o stori’r genedl. Erys ein nawddsant, Dewi Sant, yn rhan hanfodol o hunaniaeth Gymreig fodern, ac mae eraill megis Teilo, Illtud, Cadfan, Melangell, Beuno a Gwenffrewi neu Gwenfrewy yn dal lle arbennig yn nhraddodiadau gwahanol ranbarthau Cymru.
Dywed yr awdur Martin Crampin: “Mae hanesion y gwŷr a’r gwragedd a adnabyddir fel seintiau Cymru yn ei gwneud yn glir eu bod ar un tro yn cael eu parchu’n eang fel noddwyr a gwarchodwyr eglwysi a ffynhonnau sanctaidd ledled Cymru yn yr Oesoedd Canol. Ers hynny mae eu henwau a’u chwedlau wedi gwreiddio mewn enwau lleoedd a llên gwerin.”
Dyma’r astudiaeth gyntaf o’r portread o seintiau’r genedl ac mae’n datgelu trysorfa ddisglair o ddelweddau mewn gwydr lliw, cerflunwaith a chyfryngau eraill, na welwyd fawr ddim ohonynt mewn print o’r blaen. Mae dros 500 o ffotograffau hardd o tua 250 o eglwysi ar hyd a lled Cymru yn adrodd stori am le’r seintiau yn niwylliant crefyddol Cymru ac fel ffigurau cenedlaethol.
Dywed Martin Crampin: “Mae’r rhan fwyaf o ddiwylliant gweledol canoloesol cyfoethog seintiau Cymru wedi mynd ar goll ond mae cyfoeth o ddelweddau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w cael mewn eglwysi Cymreig. Rwyf wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn casglu delweddau ac yn gobeithio y bydd y llyfr hwn yn dangos pa weithiau celf anhygoel sy’n cael eu harddangos mewn eglwysi ledled y wlad.”
Mae’r llyfr clawr caled syfrdanol hwn, sydd wedi’i ddarlunio mewn lliw drwyddo draw, yn mynd ar daith o amgylch eglwysi cadeiriol ac eglwysi bach a mawr yng nghanol dinasoedd, maestrefi tawel, trefi, pentrefi a chaeau pellenig, y mae rhai ohonynt bellach ar gau. Mae’r llyfr yn cynnig golwg ffres ar y gelfyddyd yn ein heglwysi, ac yn cymharu agwedd gwahanol artistiaid a stiwdios, ac yn dangos sut mae ein dirnadaeth o seintiau Cymru wedi newid dros y blynyddoedd.
Ar adeg pan fo cymunedau’n gweithio’n galed i sicrhau bod eu heglwysi’n parhau ar agor i addoliad ac i ymwelwyr, mae’r llyfr yn amserol i’n hatgoffa o’r trysorau artistig sydd i’w cael mewn mannau addoli.
Cyhoeddir Welsh Saints from Welsh Churches gan Martin Crampin ar 01/03/2023 (£35, Y Lolfa).