2023: Blwyddyn Pererindod
Pererindod y Grawys
Dyw teimlo’n swrth yn ein bywyd ysbrydol ddim yn gwbl ddieithr chwaith; gwyddom fod angen mwy o ymdrech, o ran treulio mwy o amser gyda Iesu, ond yn amlach na pheidio bydd mofyn plant o’r ysgol, eu diddanu yn y tŷ, neu alwadau eraill, yn tarfu – a diwedd y gân fydd teimlo’n euog wrth i ni geisio gwneud iawn am bopeth. Fe geisiwn fynd i’r afael â’r syrthni ysbrydol hwn yn ystod y chwech wythnos nesaf yma, a bwrw ati, megis rhyw ras 5C. ysbrydol, wrth fentro ar ein Pererindod Garawys, teithio i galon yr Wythnos Fawr, a Iesu’n cyrraedd yn fuddugoliaethus i Jerwsalem, ar y Sul Blodau cyntaf hwnnw. Bydd sawl darn o’r ysgrythur yn ysbrydoliaeth i ni bob wythnos, wrth i ni Orffwyso, ac yna Fyfyrio megis pererinion ar lwybr bywyd, cyn ymagor i Dderbyn o faeth unigryw Duw ar gyfer gweddill y daith
Esgobaeth Tyddewi mewn 100 o wrthrychau: Cymynrodd ac arweinlyfr
Mae Caroline Jones, Swyddog yr Esgobaeth ar gyfer y Flwyddyn Bererindod, eisiau clywed am drysorau ytu mewn i'n heglwysi ar gyfer llyfr y mae hi'n ei goladu.
Gwrthgyferbyniad plannu eglwys yw Esgobaeth Tyddewi mewn 100 owrthrychau. Mae’n ymwneud âdyfrio’r eglwysi sydd gennym yn barod!
Mae'r syniad o osod sbotolau, mewn un gyfrol, ar 100 odrysorau o fewn 100 o eglwysi ynfenter newydd. Nidoes neberioed wedi ceisio’i wneudo'r blaen.
Mae prosiectau eraill gyda 100 o wrthrychau yn bodoli, megis llyfr gwych Neil McGregor a chyfres Radio4 The History of the World in 100 objects. Ond mae hyn yn fwy arbenigol gan fod pob trysor, bethbynnag ydyw, yn rhoi gogoniant i Dduw ac yn ein byd seciwlar maehyn yn wahanol. Fy ngobaith yw ybydd y gwrthrychau hyn yn sail i lwybr pererinion treftadaeth.
Yn anffodus, fodd bynnag, rydym i gyd yn gwybod bod cau eglwysi yn hofran fel bwgan marwolaeth droslawer o gyfarfodydd AWL, wrth i'r tywyllwch a digalondid dros gyfran y weinidogaeth a phensiynau clerigwyr hedfan uwch ein pennau fel ystlumod digroeso, ond mae hyn oll yn gwneud y casgliad hwnhyd yn oed yn fwy hanfodol. Pam? Oherwydd y tu mewn i lawer o'r eglwysi bychain sy'n ei chael hi'nanodd goroesi mae'r trysorau mwyaf gwych ac mae angen eu goleuo unwaith eto a'u diogelu mewnprint, yn ogystal ag yn gorfforol, fel rhan o'r prosiect hwn.
Mae ein ffenestri arbennig, beddau, cwpanau cymun neu beth bynnag a ddewiswch yn rhan o DNA einheglwysi. Boed yn fawr neu’n fach, mae’r pethau hyn yn sanctaidd a chysegredig a dylent ddiddori adenu ymwelwyr, gan ddangos sut mae ein ffydd wedi sefyll prawf amser. Y trysorau hyn yn y lleoedd hynsydd wedi ein gwneud ni'r hyn ydym ni heddiw. Yr ydym yn iawn, ac yn awyddus, i barchu a chanmolcenhedlaeth y Windrush a phawb sydd wedi ymfudo i’n glannau ond wedyn, yn sicr, oni ddylem gael yparch a’r gymeradwyaeth am gadw Cristnogaeth yn fyw yn ein heglwysi ym Mhrydain am 1700 oflynyddoedd? Mae geiriau fel ‘plwyf’ mor ddi-PC y dyddiau hyn i lawer, hyd yn oed o fewn einrhengoedd ein hunain, ond ni ddylai hynny fod. Y plwyf ac eglwys y plwyf sydd wrth ei chalon yw’r hyna’n gwnaeth ni'r hyn yr ydym heddiw a dylid parchu hynny, nid ei ddileu.
Dyma’n cyfle i ddangos i bobl yr hyn sydd gennym,heb ddisgwyl dimganddynt, dim ond cynnig croeso cynnes,dangos eintrysorau, darparutaflen wybodaeth, pwynt gweddi efallai, ac yna gadewch i’r Ysbryd Glân wneud y gweddill.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch ihttps://stdavids.churchinwales.org.uk/en/neucysylltwch â mi yn uniongyrchol:carolinejones@cinw.org.uk; 01267 290532/07530 959547