Tŷ'r Pererin
Croesawu ymwelwyr fel pererinion
Tŷ’r Pererin yw Canolfan Addysg a Phererindod y Gadeirlan. Fe'i agorwyd ym mis Mawrth 2013 yn hen adeilad Ysgol Quickwell, ac mae'n cynnig croeso ychwanegol i ymwelwyr y gadeirlan, gan roddi pwyslais penodol ar weithgareddau addysgiadol ac ysbrydol o gwmpas cysegrfan Dewi Sant, pererindod a bywyd Dewi Sant ei hun.
Rhaglen ar gyfer Ysgolion
Mae amrediad o fodiwlau ar gael sy'n atgyfnerthu nifer o feysydd Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda ffocws arbennig ar Addysg Grefyddol.
Rhoddir cyfle i ddisgyblion gael cipolwg ar fywyd, prif gredoau a phrofiadau Cristnogion mewn addoliad, gweinidogaeth a chymuned; gallant sgwrsio mewn ffordd ystyrlon a phwrpasol gyda phobl sydd â ffydd, waeth beth yw eu cefndir ethnig neu grefyddol hwy.
Fel rhan o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau ceir teithiau tywys a phererindodau, digwyddiadau thematig a thymhorol sy'n manteisio ar dalentau artistiaid ysbrydoledig, ymarferwyr addysgol a phobl leol, sy'n gymorth i ymwelwyr ymgysylltu â diwylliant a threftadaeth Gristnogol, hanesyddol a Chymreig.
Dyma beth sydd ar gael: