
Astudiaethau’r Grawys 2025

Gwahoddiad i ymuno â chyfres o bum sesiwn Astudiaethau’r Grawys. Sesiynau 30 munud bob nos Sul am 7pm ac yna chwarter awr o sesiwn holi ac ateb:
Mae Efengyl Ioan yn frith o gwestiynau. Rhai ohonyn nhw'n holi pwy yw Iesu; eraill yn ymwneud â beth yw'r eglwys a beth neu pwy yw'r disgyblion. Geiriau cynta’r Iesu yn yr Efengyl yw: “Beth yr ydych yn ei geisio?” Gellir ystyried yr Efengyl fel ymateb i'r cwestiwn hwnnw. Yn yr ardd ger y bedd ar ddiwrnod cyntaf y Pasg mae Iesu'n gofyn cwestiwn arall fymryn yn wahanol, un o'r olaf o'i weinidogaeth ddaearol, "Pwy yr ydych yn ei geisio?" Gellid gweld yr Efengyl fel ymateb i'r cwestiwn hwnnw hefyd. Fel awdur, mae Ioan yn ateb ar ein rhan: rydyn ni’n chwilio am fywyd, sut i fyw ein bywyd gorau, sut i gofleidio bywyd, a phrofi a blasu beth yw bod yn wirioneddol ddynol. Dros gyfres o bum anerchiad, byddwn yn edrych ar bump o'r cwestiynau a ofynnir yn yr Efengyl ac yn ystyried beth allai'r ymatebion ei olygu i'n disgyblaeth yn yr eglwys ac yn y byd.
Dan arweiniad: Y Gwir Barchedig Esgob Dorrien a'r Hybarch John Holdsworth
Mae John Holdsworth yn gyn-Brifathro Coleg Mihangel Sant Llandaf ac yn gyn-archddiacon Tyddewi. Cyn ymddeol o’r weinidogaeth gyflogedig bu'n Archddiacon Gweithredol yn Esgobaeth Cyprus a'r Gwlff. Ers ymddeol, mae'n ysgrifennu, yn dysgu ac yn gweinidogaethu fel diwinydd canon yn eglwys gadeiriol Sant Paul yn Nicosia. Ei lyfrau diweddaraf yw Hidden in Plain Sight: Unearthing and Earthing the Psalms, ac Honest Sadness, astudiaeth ar alarnad.
Dyddiadau astudio'r Grawys
2025: Blwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
![CYF WEelsh Logo [PIT]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/4.width-500.jpg)
Dechreuodd Blwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr esgobaeth ar Sul yr Adfent 2024 a bydd yn para tan Adfent 2025.
Gydol y flwyddyn gallwch ddisgwyl gweld cyfres o ddigwyddiadau a all helpu Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol i ymgysylltu â phlant, ieuenctid a theuluoedd ar draws yr esgobaeth, adnoddau a chymorth i'ch helpu gyda'ch plant, ieuenctid a theuluoedd eich hun a diweddariadau rheolaidd trwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, trwy Pobl Dewi, gwefan yr esgobaeth, a gwefan a chylchlythyr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd.



Darganfod rhagor

