Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Ysgol Ystrad Meurig 1757-1973

Ysgol Ystrad Meurig 1757-1973

Ysgol Ystrad Meurig [book cover]

Teitl: Ysgol Ystrad Meurig 1757-1973

Awdur: Aled W. Williams

Cyhoeddwr: Yr Awdur

Pris: £8.50 (gan yr awdur)


Addysgu mewn modd rhagorol

Dewisodd Thomas Parry ond un gerdd gan Edward Richard i’w chynnwys yn ei flodeugerdd enwog a honno yn dwyn y teitl ‘Bugeilgerdd’ gan ddilyn patrwm sgwrs dau gymeriad o’r enw Gruffudd a Meurig.

Yn ei lyfr, mae’r Canon Aled Williams wedi amlinellu y cyfraniad sylweddol arall a wnaeth Edward Richard, sef sefydlu ysgol yn ei ardal ei hun i gwrdd ag anghenion bechgyn tlawd. Mae cysylltiad rhwng y ddwy weithred, oherwydd mae’r gerdd yn efelychu arfer beirdd Lladin ac yn y pendraw daeth yr ysgol yn adnabyddus am ddysgu y clasuron mewn modd rhagorol, yn enwedig yng nghyfnod y Parchedig John ‘Latin’ Jones tua dechrau yr ugeinfed ganrif.

Yna daeth y cwbl i ben yn 1973. Erbyn y flwyddyn flaenorol dim ond tri disgybl oedd ar ôl ac un ohonynt bellach yn offeiriad yn yr Eglwys Uniongred! At hynny, dylid sôn am atgofion y sawl oedd yn mynychu yr ysgol yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Maent yn cyfleu yn fywiog iawn yr amodau byw y bu rhaid i’r myfyrwyr eu derbyn bryd hynny. Yn wir, dyna rannau mwyaf gafaelgar y llyfr hwn.

Yr ydym yn ddyledus i’r Canon Aled Williams am ei ymchwil a’i ddiddordeb brwd yn hanes y sefydliad. Mae wedi tynnu ar ei addysg ei hun mewn gwirionedd gan iddo ddechrau casglu gwybodaeth pan oedd yn fyfyriwr ifanc. Un thema amlwg yn ei waith yw y cefndir cymdeithasol a chrefyddol i’r hanes. Disgwylid i’r ysgol gynnal safonau Eglwys Loegr. I’r perwyl hwnnw bu rhaid i’r ysgolfeistr fod yn glerigwr. Agwedd arall ar y llyfr yw’r tlodi a lesteiriodd waith yr esgobaeth a safonau isel yr offeiriaid plwyf o ran addysg ac ymddygiad. I gynorthwyo yr ysgol newydd, penderfynodd Edward Richard roi llyfrau addas gan ganolbwyntio ar lyfrau Saesneg oedd yn ymwneud â hanes llên, athroniaeth a diwinyddiaeth.

Yr oedd awdurdodau yr eglwys, ac yn bennaf amryw esgobion, yn awyddus iawn i godi safonau y clerigwyr trwy ddarparu addysg gymwys i’r rhai a fynnai gael eu hordeinio. Efallai byddai y llyfr ar ei ennill pe byddai’r awdur wedi tynnu sylw at agwedd yr Esgob Samuel Horsley oedd yn mynnu amddiffyn ei braidd rhag syniadau cythryblus y Chwyldro Ffrengig ac yn gweld yr ysgolion eglwysig fel arf yn erbyn y rhai a fynnai ddymchwel yr hen drefn.

Diolch i’r Canon Aled Williams am ei ymchwil a’i ymdrech i groniclo hanes Edward Richard a’i ddilynwyr dros gyfnod o ddwy ganrif a mwy.

Y Canon Jeffrey Gainer