£180 y filltir ar gyfer Plant Dewi
Yn ôl ym mis Mai, fe wnaeth criw o aelodau Cyngor Esgobaethol Tyddewi dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol (DCSR) herio’r tywydd garw i godi arian at achos da. Roedd y rheolwr Catrin Eldred yn un ohonyn nhw.
Dechreuodd y cyfan yn Eglwys Dwyrain Waltwn gyda rhol cig moch ben bore. Yna, am tua 7.30am cychwynnodd y grŵp ar daith gerdded 26 milltir i godi arian i Plant Dewi, prosiect cymorth i deuluoedd Cyngor Esgobaethol Tyddewi dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol.
Arweiniodd misoedd lawer o gynllunio ac oriau bwy gilydd o hyfforddiant at y diwrnod gydag 11 o fusnesau yn noddi crysau-T i'r cerddwyr dewr a gofrestrodd. Codwyd nawdd trwy gyfraniadau lleol ar-lein a thrwy ffurflenni nawdd. Roedd yr ymateb yn anhygoel ac yn hwb mawr i’r cerddwyr gydol y daith.
Roedd y daith gerdded yn dilyn llwybr llawn golygfeydd trwy lonydd a llwybrau troed o Ddwyrain Waltwn i'r Canondy yn Nhyddewi. Roedd yn llwybr anodd gyda digon o fryniau, traffig a thraed poenus i herio pawb.

Cafodd ysbryd y cyfranogwyr hwb mawr, diolch i haelioni eglwysi a busnesau lleol ar hyd y llwybr a ddarparodd luniaeth, cyfleusterau a geiriau o anogaeth mawr eu hangen. Fe wnaeth y cerddwyr gyfarfod â llawer o bobl ar eu taith a gyfrannodd i’r tuniau casglu ac fe wnaeth un beiciwr a oedd ar daith o gwmpas Sir Benfro hyd yn oed droi rownd i roi pum punt yn y coffrau!
I'r cerddwyr, roedd yn gyfle i ddod at ei gilydd ac ymgymryd â her dros achos gwych. Roedd yn brawf o stamina ac ewyllys i gerdded yr 26 milltir yn enwedig pan oedd y glaw a'r gwynt yn eu herio wrth i’r daith dynnu at ei therfyn. Ond cafwyd diwrnod i’r brenin a gwledd haeddiannol wedi cyrraedd pen y daith yn y Canondy, gyda phawb yn wlyb domen.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i godi'r swm gwych o £4685 i Plant Dewi. Diolch yn arbennig i'r Parch Sophie Whitmarsh a awgrymodd y syniad ac a gynlluniodd y llwybr. Mae'r grŵp eisoes yn ystyried eu her nesaf!