Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Trochi ym myd Natur

Trochi ym myd Natur

Dipping into Nature [River Cleddau]

Mae'n fore Sadwrn ac mae mynwent eglwys Sant Aidan ar lan afon Cleddau Ddu yn cynnal math newydd o ddigwyddiad.

Wedi'n hysbrydoli gan ddarlleniad o Ioan 21, fe wnaethon ni herio glaw mân Sir Benfro a mwynhau rholiau bysedd pysgod a choffi wrth dân agored.

Gyda boliau'n llawn, ac yn cario ein rhwydi a'n hambyrddau casglu, fe gerddon ni’r daith fer at bont Llawhaden yn ein sgidiau glaw. Buom yn chwilota drwy’r cerrig mân ac yn casglu mân greaduriaid. Nôl yn yr eglwys fe fuon ni’n astudio’r hyn roedden ni wedi’i ddal.

Roedd y criw yn amrywio o blant 3 oed i bobl 80+ oed a phawb yn ymddiddori yn yr holl fywyd roedden ni wedi’i gasglu. Pwynt calonogol oedd bod y niferoedd uchel o larfâu pryfed afon amrywiol yn dangos bod y darn bach yma o afon Cleddau mewn cyflwr da.

Cymdeithasu, bwyd a diddordeb ym myd natur - beth sydd ddim i'w hoffi?

Diolch o galon i Peter, y Beili Dŵr lleol am ei arweiniad ar drochi ac offer, i Emma o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru am yr adnoddau addysgol a chreadigol; hefyd i Nicci ac Elaine o'n chwaer eglwysi am eu cefnogaeth, fel arfer.