Cyflwyno Hwyrol Weddi ar Gân i’r Plwyf
Mae Grantiau Gwyliau Mabsant y Choral Evensong Trust (CET), fel yr un a ddyfarnwyd i Eglwys Ystrad Meurig, yn galluogi eglwysi – yn enwedig y rhai heb draddodiad o hwyrol weddi ar gân – i gynnig hwyrol weddi ar gân ar ddydd gŵyl eu mabsant. Tim Popple sy’n esbonio pam – a sut.
Y nod yw dyfnhau cysylltiadau cymunedol, cyfoethogi’r addoliad a denu'r rhai sy'n mynychu'r eglwys yn anaml neu byth.
Mae’r Hwyrol Weddi ar gân yn cyfuno salmau, cantiglau, anthemau a gweddïau ar ffurf gorawl - ac mae’n gyfareddol. Mae cefnogaeth CET yn annog plwyfi i gynllunio gwyliau o amgylch gŵyl ei Mabsant (neu'r Sul agosaf) gyda cherddoriaeth yn ganolbwynt i’r cyfan.
Mae'r Choral Evensong Trust (CET) yn cynnig dau fath o grant:
- Grant Gwyliau Mabsant gwerth £500, i ddenu côr gwadd.
- Grant Dathliadau Mabsant gwerth £250, i ariannu lletygarwch cymunedol lle mae yna gôr lleol yno’n barod.
Cafwyd gwefr yn darllen adroddiadau am y gwyliau a gynhaliwyd eleni. Mewn pentrefi lle nad oedd hwyrol weddi ar gân wedi’i chynnal ers degawdau, gwelwyd cynnydd dramatig mewn cynulleidfaoedd bach: tyfodd un eglwys o 12 i 74 o fynychwyr; mewn eglwys arall croesawyd 100 i adeilad sydd fel arfer yn dal tua 20. Y gerddoriaeth wnaeth y gwahaniaeth.
Mae ceisiadau am grantiau'r flwyddyn nesaf yn agor ar 23 Tachwedd – gŵyl Crist y Brenin (neu'r Sul Olaf ar ôl y Drindod). Mae grantiau'n rhai untro ac yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr newydd bob blwyddyn; nid yw eglwysi a dderbyniodd gymorth yn 2025 yn gymwys eto ar gyfer 2026.
Byddai'n werth chweil i eglwysi sy'n ystyried gwneud cais wneud y canlynol:
- Gwahodd eich noddwr (y person neu'r corff sy'n 'cyflwyno' y fywoliaeth) i ddod yn noddwr;
- Cadarnhau eich darpariaeth gerddorol yn gynnar;
- Cynllunio deunydd sy’n gyfoethog o litwrgi;
- Hysbysebu'n eang;
- Cynnig lletygarwch hael;
- Ystyried cydweithio ar draws eglwysi.
Os hoffai'ch plwyf wneud cais pan ddaw'r Adfent, dylech ystyried y gwaith caib a rhaw nawr:
- Trafodwch gyda'ch Cyngor Plwyf Eglwysig a fyddai Hwyrol Weddi yn addas i'ch Gŵyl Mabsant.
- Nodwch gantorion posibl y gallech eu gwadd.
- Gweithiwch trwy logisteg gwledd mabsant.
- Drafftiwch gyllideb amlinellol.
- Cynlluniwch i estyn allan yn gymunedol.
- Meddyliwch am letygarwch.
Mae’n ddyddiau cynnar i’r fenter Grantiau Gŵyl Mabsant, ond mae ei blwyddyn gyntaf yn dangos y gall gwyliau Mabsant wedi'u cynllunio'n dda danio brwdfrydedd cynulleidfaol go iawn, denu cymunedau ehangach, a gadael ymdeimlad parhaol o adfywiad.
Os yw'ch eglwys yn ystyried hyn ar gyfer ffenestr grantiau Adfent 2025 hyd at Ŵyl Fair y Canhwyllau 2026, nawr yw'r amser i weddïo a chynllunio.
Am ragor o wybodaeth – ac i wylio'r ffenestr gais pan fydd yn agor – cadwch lygad ar choralevensong.org neu cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol trwy hello@choralevensong.org