“Mae gennym waith i'w wneud" – yr Archesgob Cherry yn cymryd yr awenau
Mae gan Gymru archesgob newydd. Etholwyd Esgob Mynwy, Cherry Vann, ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei gorseddu'n ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hi yw'r pymthegfed person - a'r fenyw gyntaf - i ddal y swydd.
Cyhoeddodd Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, neges bersonol i longyfarch yr Archesgob newydd:
“Bydd yr ymroddiad, y sgiliau a'r profiad sydd gan yr Archesgob Cherry yn galluogi'r Eglwys yng Nghymru i symud i gyfnod newydd; bydd hi'n mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau gyda ffydd, caredigrwydd a thosturi.
“Mae wedi cymryd cenedl y Cymry at ei chalon a bydd yn gwneud popeth posibl i gynnal iaith, gwerthoedd, diwylliant a chymeriad y genedl hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda'r archesgob i ddod â heddwch, ffydd ac undod."

Daw yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, a chafodd yr Esgob Vann ei hordeinio ym Manceinion ym 1994 – mae’n un o'r menywod cyntaf i gael eu hordeinio'n offeiriad yn Eglwys Loegr. Bu'n Archddiacon Rochdale am 11 mlynedd nes iddi gael ei phenodi'n Esgob Mynwy yn 2020.
Ond mae'r penodiad wedi codi stŵr. Yr Archesgob Cherry yw'r Primas cyntaf a etholwyd ym Mhrydain sy'n agored hoyw ac mewn partneriaeth sifil, sefyllfa sydd wedi siomi ein haelodau mwy traddodiadol gartref a thramor, sy'n honni bod hyn yn tanseilio dysgeidiaeth Feiblaidd.
Er hyn, mae hi wedi amddiffyn ei safbwynt, a phwysleisio ei hymrwymiad i gynhwysiant a chariad. "Nid fy swydd i yw gwthio rhywbeth rwy'n credu y dylai'r Eglwys fod yn ei wneud, ond cynrychioli safbwyntiau o bob math a sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio," meddai.
Daw'r etholiad wrth i'r Eglwys yng Nghymru gynnal ymgynghoriad eang yn dilyn y Bil sy'n braenaru'r tir i gyplau o'r un rhyw fendithio eu partneriaeth sifil neu eu priodas yn yr eglwys ac mae etholiad yr Archesgob newydd yn cael ei ystyried yn gam sy'n adlewyrchu agwedd arweiniol yr Eglwys at gynhwysiant a rhywioldeb dynol.
“Nid wyf am wneud yn fach o hynny oherwydd rwy'n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw i fenywod ac i bobl mewn partneriaethau sifil a phriodasau," meddai.
“Ond hoffwn ddweud yn gwbl glir nad dyna'r rheswm pam y cefais fy ethol i'r rôl hon. Mae llawer mwy i mi na bod yn fenyw ac yn lesbiad mewn partneriaeth sifil.”
Camau cyntaf
Gyda phrin tair blynedd i fynd tan ei hymddeoliad, tasg uniongyrchol yr Archesgob newydd fydd goruchwylio newidiadau i ddiwylliant cyffredinol yr Eglwys yng Nghymru, sy'n destun archwiliad ar draws y Dalaith a'i chadeirlannau ar hyn o bryd.
Mae ei phenodiad yn dilyn ymddeoliad cynamserol ei rhagflaenydd, Andrew John, yn sgil Gofwy yn Eglwys Gadeiriol Bangor, lle'r oedd hefyd yn Esgob, a nododd ddiffygion difrifol o safbwynt llywodraethu ac ymddygiad yno.
Mae'r Archesgob newydd yn credu mai "achlysuron unigryw" oedd y rhain, ond bod "rhywbeth ynghylch diwylliant yr Eglwys yng Nghymru sydd efallai wedi caniatáu iddyn nhw ddigwydd; diffyg tryloywder, bod yn agored a gonest, diffyg atebolrwydd, a dim digon o graffu na goruchwyliaeth", meddai wrth The Church Times.
Ychwanegodd: “Mae'n rhaid i mi weithio arno fy hun ac mae'n mynd i gymryd tipyn o amser ond rwy'n credu bod gennym gyfle nawr i wneud gwaith da iawn ar draws y Dalaith i sicrhau bod pob un o'r chwe esgobaeth mewn lle da.”