Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Arian i Fadagascar

Arian i Fadagascar

kids-plant-trees- Madagascar

Yn ei neges ddiweddaraf, mae Theresa Haine yn brwydro yn erbyn biwrocratiaeth ac ambell enw hir iawn!

Ar ôl dwy flynedd fel pennaeth, gadewais Madagascar a phentref Imerintsiatosika. Mae enwau lleoedd ym Madagascar yn aml yn hir a lliwgar, fel cymaint yng Nghymru. Ystyr Imerintsiatosika yw “Lle na chafodd pobl y Merina eu gwthio” h.y. lle y cawson nhw fuddugoliaeth mewn brwydr gyda llwyth cyfagos.

Enw merch mewn un dosbarth oedd Rasoloarinoronomenjanahary Lys, Florence, Lalanirina – ond roedden ni’n ei galw hi’n Lala! Ystyr llythrennol ei henw oedd Solo, a roddwyd i ni gan Dduw i’n cysuro wedi colli Noro. Mae enwau eraill yn gryno a phwrpasol, fel pentref Beparasy sy’n golygu “llawer o chwain”!

Dychwelais i’r DU a threulio blwyddyn yn dysgu’n rhan-amser mewn ysgol gynradd yn Rugby, gan adolygu ar yr un pryd ar gyfer arholiad mynediad i gwrs gradd blwyddyn i fyfyrwyr aeddfed yn Leeds. Yn ffodus, llwyddais i gael lle, gyda hynny’n fy ngalluogi i lenwi’r bwlch yn fy nghymwysterau a oedd wedi golygu gorfod taflu llwch i lygaid adran addysg Malagasy wrth gael fy mhenodi’n bennaeth yn Imerintsiatosika. Byddai un ar ddeg mlynedd yn mynd heibio cyn i fi ddychwelyd i Fadagascar fel un o ymddiriedolwyr cyntaf elusen a sefydlwyd gan gyfaill o Abertawe, a fu’n wirfoddolwr gyda’r Crynwyr ar yr ynys ddwy flynedd ynghynt.

Roedd y sefyllfa’n mynd o ddrwg i waeth ym Madagascar yn y 1980au. Roedd yr Arlywydd eisiau torri’r cysylltiad agos â Ffrainc, cyn-wladychwr yr ynys, a throi at yr Undeb Sofietaidd am gefnogaeth. O ganlyniad, chwalodd yr economi gan arwain at gynnydd aruthrol mewn tlodi, a newyn gwirioneddol yn ne’r wlad.

Fe wnaethon ni ysgrifennu at elusennau mawr fel Oxfam a Chronfa Achub y Plant, ond roedden nhw eisoes wedi eu llethu wrth geisio lleddfu tlodi mewn gwledydd eraill, ac yn methu helpu ar y pryd. Dywedodd fy ffrind wrthi ei hun, “Os nad oes neb arall yn gallu gwneud rhywbeth, yna mae’n rhaid i fi wneud rhywbeth fy hun”. Felly, gyda chymorth Crynwyr Abertawe a chefnogaeth wych gan ei gŵr (nad oedd erioed wedi bod i Fadagascar), sefydlodd elusen o’r enw Money for Madagascar. Roedden ni’n grediniol fod pobl yr ynys yn deall yn union beth oedd angen ei wneud ac yn amlach na pheidio, yn gwybod yn union sut i’w wneud e. Yr hyn oedd ar goll oedd cyllid. Cewch wybod mwy am hynny, a’m rhan i yn y gwaith, yn y bennod nesaf.