Noson y Dysgwyr yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth
Ar nos Fercher 18fed Gorffennaf, roedd Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth dan ei sang. Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae’r eglwys wedi cynnal noson o adloniant Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ar Cwrs Haf Dwys i Ddysgwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth. A doedd eleni ddim yn eithriad. Wedi gair o groeso gan Felicity Roberts, prif diwtor y Cwrs Haf, trosglwyddyd yr awennau i’r Athro Jamie Medhurst, un o wardeniaid yr eglwys.
Cafwyd awr o adloniant amrywiol gydag eitemau cerddorol gan Gôr Gloria (côr o aelodau egwlysi Ardal Weinidogaeth Aberystwyth: Santes Fair, Santes Anne, Y Drindod Sanctaidd, San Mihangel, a Llanychaearn), Delyth Evans (Telynores Mynach, ac arweinydd Côr Gloria), a Lona Jones, gyflwynodd y gynulleidfa i Gerdd Dant ar ffurf ‘Cymru’ gan J. R. Jones.
Cafwyd sgyrsiau difyr gyda dwy ddysgwraig o’r Ardal Weinidogaeth – Siân Hiscott a Lorena Troughton – gyda chyfle i holi am y cymhelliad i ddysgu Cymraeg, eu cefndir personol, a’u ffydd Gristnogol.
Roedd yn bleser cael Maer Tref Aberystwyth, y Cynghorydd Maldwyn Pryse, yn westai, ac yntau wedi teithio’r holl ffordd o Lanelli ar gyfer y noson. Fe soniodd wrth y gynulleidfa am ei atgofion o addoli yn Eglwys y Santes Fair gyda’i famgu, a hefyd am bwysigrwydd y Beibl ym mywyd Cymru.
Gyda Chwm Rhondda i agor y noson a Chalon Lân i orffen y noson, roedd cyfle i bawb morio canu.
A fyddai’r un noson fel hon yn gyflawn heb luniaeth a diolch o galon i aelodau’r Eglwys dan arweiniad Barbara Davies, am sicrhau bod y byrddau’n orlawn o de, coffi, a chacennau hyfryd!
Mae’r noson yn rhan bwysig o galendr Eglwys y Santes Fair. Mae’n gyfle i gyflwyno diwylliant Cymraeg i siaradwyr newydd a dysgwyr Cymraeg ond hefyd i rannu ein ffydd gydag eraill a’u cyflwyno i’r eglwys. Mae’n ddiddorol nodi bod rhai o’r dysgwyr wedi mynychu’r oedfa boreol ar y Sul wedi’r noson a rhai hefyd wedi ymuno â’n gwasanaeth hwyrol weddi am 5pm nos Sul ar Zoom.
Edrychwn ymlaen at Noson y Dysgwyr 2025!