Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Mwy o ddarganfyddiadau newydd o'r Gorffennol...

Mwy o ddarganfyddiadau newydd o'r Gorffennol...

… Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sy’n datgelu mwy

Yn Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol rydyn ni’n aml yn dod o hyd i dystiolaeth o'r gorffennol sydd wedi cael ei cholli neu, yn fwy cywir, wedi'i chadw ac wedi aros yn guddiedig am flynyddoedd lawer. Sy’n creu tipyn o gyffro bob tro. Bydd yn aml yn esbonio dirgelwch neu fwlch yn ein gwybodaeth gyfredol. Ac mae gan silffoedd llyfrgelloedd hanesyddol lawer o'r math yma o drysorau, ynghudd ac eto o dan ein trwynau yn aml iawn.

Mae rhai o'r hen ddarganfyddiadau newydd hyn i'w gweld mewn llyfr a lansiwyd gennym yn ddiweddar: "Governance of St Davids 1600 to 1740" a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru a'i olygu gan J. Wyn Evans. Mae'r llyfr yn trawsgrifio ac yn darparu sylwebaeth wybodus ar bapurau gwaith a chofnodion wedi'u hysgrifennu â llaw o'r eglwys gadeiriol rhwng diwedd y "Gwrthryfel Mawr" ac oes William a Mary. Roedd y rhain wedi byw’n ddi-nod fwy neu lai ar silffoedd Llyfrgell Bodleian. Yn llawn manylion sy'n ennyn chwilfrydedd ac yn adlewyrchu amseroedd cythryblus, mae'r llyfr bellach ar werth yn y siop sydd yng nghorff yr Eglwys Gadeiriol.

Ni ellir galw Bedd Edmund Tudor yn gudd. Mae yng nghanol seintwar yr Eglwys Gadeiriol. Ond mae ymchwil ddiweddar gan yr Athro Emerita Madeleine Gray yn taflu llawer mwy o oleuni ar faint yn union o feddroddau y gallai sylfaenydd brenhinlin y Tuduriaid fod wedi'u cael. A hefyd ar union darddiad y beddrod marmor Purbeck go iawn sydd gennym ni yma bellach.

William Morgan Bible [Westminster Abbey Library]

Ar 4 Gorffennaf 2026 bydd UDA yn dathlu 250 mlynedd ers ei Datganiad o Annibyniaeth ym 1776. Ar y diwrnod hwnnw bydd Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol yn arddangos "Maps of North America in 1776" sydd wedi bod yn cuddio ar ei silffoedd ers i Samuel Dunn gyhoeddi ei atlas ym 1776. Beth oedd enw'r wlad? Beth oedd y dystiolaeth o bresenoldeb Cymreig yn y wlad ifanc? Sut oedd y cenhedloedd cyntaf, a oedd yno cyn dyfodiaid yr Ewropeaid, yn cael eu cynrychioli? A oedd yr Ynys Las mewn gwirionedd yn benrhyn oddi ar Ganada, fel y dangosir? Mae'r cyfan yno.

Yn y cyfamser, mae ymchwil ar y cyd yn parhau gyda chydweithwyr yn Llyfrgell Abaty Westminster ar eu Beibl Cymraeg cynnar. Cafodd ei storio'n ddiogel ar eu silffoedd ers i William Morgan ei roi i Lyfrgell yr Abaty ym mis Tachwedd 1588. Bydd mwy o'i gyfrinachau yn cael eu datgelu yn ddiweddarach eleni. Mae hefyd yn rhan o daith Wythnos Cymru yn Llundain yn yr Abaty ym mis Mawrth.

I gael gwybodaeth am y gweithgareddau hyn ac eraill e-bostiwch Library@stdavidscathedral.org.uk