Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.

Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.

“Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?” (Luc 17: 18) Geiriau Iesu wedi iddo iacháu’r deg gwahanglwyf, wrth gwrs, a dim ond un yn dychwelyd i ddiolch iddo. Mae’n amlwg bod mynegi diolch yn bwysig iawn yng ngolwg ein Harglwydd, e.e. yr holl Salmau o ddiolch, Philipiaid 4: 6: “byddwch yn ddiolchgar”, ac 1 Thesaloniaid 5: 18: “Byddwch yn ddiolchgar”.

Ai diolch i’n Harglwydd ddaw i’r meddwl gyntaf wrth ddeffro yn y bore, wrth fynd trwy’r dydd a’i waith, wrth noswylio? Neu ai rhestr siopa yw ein gweddïau, heb fawr ddim sgwrs â’r Arglwydd, na diolch iddo?

O edrych eto ar yr adnodau uchod, efallai i chi sylwi fy mod wedi hepgor geiriau ola’r ddwy: “byddwch yn ddiolchgar bob amser”, a “Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.” Bob amser? Mewn unrhyw sefyllfa? Ond beth am y pethau caled ddaw i’n rhan ni i gyd yn ein tro? Ddylen ni ddiolch am y rheiny hefyd, a hynny yng nghanol y sefyllfa ac nid â synnwyr trannoeth?

Corrie ten Bloom + Billy Graham

Corrie ten Boom: Cafodd Corrie a’i chwaer Betsie eu cludo i wersyll crynhoi Ravensbrück yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawsant orchymyn i ddiosg eu holl ddillad a cherdded mewn parêd. Yn teimlo’n llawn cywilydd, cofiodd Corrie’n sydyn am baentiad a welodd un tro o Iesu’n noeth ar y groes, a gweddïodd: ‘Lord, I never realized before that you hung naked on the cross for us. Now I understand a little of what it must have cost you to suffer in that way. Thank you for bearing that for me. Help me to bear this for you.’

Wedi cyrraedd eu barics, gwelsant fod y blancedi’n fyw o chwain, ond meddai Betsie’n llawn cyffro: ‘God has shown me how we can bear all this. He has said that we must give thanks in all circumstances, so let’s start.’ Diolchodd eu bod yn dal gyda’i gilydd, eu bod wedi llwyddo i sleifio’u Beibl i mewn, a diolchodd am … y chwain!

Dechreuodd y ddwy gynnal astudiaethau beiblaidd a chyfarfodydd gweddi yn y barics, ac ni ddaeth swyddogion y gwersyll erioed i oruchwylio’r adeilad, a chawsant lonydd i sôn am Grist, a gweld llawer yn dod i’r bywyd. Yn nes ymlaen, cawsant wybod pam nad oedd swyddogion y gwersyll yn dod ar gyfyl eu barics – o achos y chwain!

“Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.”