Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Blwyddyn yr Halen a’r Golau – ble nesaf?

Blwyddyn yr Halen a’r Golau – ble nesaf?

Salt and Light logo

Ein Swyddog dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol, Justin Arnott sy’n mapio’r llwybr drwy’r Garawys i’r Pasg ac ymlaen.

Atgyfododd Crist! Atgyfododd yn wir, Haleliwia! Wrth inni ymlwybro drwy’r Garawys, heibio i’r Groes, drwy’r bedd gwag ac i mewn i’r Pasg, mae’r dyddiau’n ymestyn a gellid maddau inni am deimlo fod pethau’n dod yn haws a’n well.

Tra gall hyn fod yn wir, y gwirionedd creulon yw nad yw materion cymdeithasol yn newid â thraul amser a thymor. Y gwir yw taw’n gwbwl ddirybudd fydd pethau’n gwaethygu yn ein byd, y peth diwethaf y byddem yn disgwyl yn aml.

Mae edrych yn ôl bob amser yn glir a rhwydd tra bod proffwydo am y dyfodol yn anodd. Rhwydd hefyd yw cael ein maglu i adweithio i argyfwng heddiw tra bod argyfwng ddoe yn diflannu o dudalen flaen y newyddion.

At hyn mae Blwyddyn Halen a Golau yn ymdrechu i gynnig llewyrch ar wahanol ardaloedd o Gyfrifoldeb Cymdeithasol, er mwyn ysgogi ystyriaeth, gweddi a gweithred. Wedi cyffwrdd â thestun ffoaduriaid, byddwn yn treulio’r Garawys yn edrych ar raniadau, gwrthdaro a phŵer mewn gwahanol olau.

Bukavu poverty image

Yna, byddwn yn symud ymlaen at Gyfiawnder Hiliol a Thlodi. Y bwriad yw iddynt beidio â bod yn rhywbeth sy’n digwydd a mynd a bydd y deunydd yn aros, ar gael ar wefan yr esgobaeth ynghyd ag e-gyfeiriad newydd stdavids.yearof@cinw.org.uk er mwyn ichi allu danfon gohebiaeth, sylwadau ac adborth.

Eto, nid gorlwytho neu feio yw’r bwriad, ond cynnal ac annog beth sy’n digwydd eisoes tra’n cynnig syniadau am waith pellach.

Mae maes Cyfrifoldeb Cymdeithasol yn anferth ac amrywiol, fel y mae natur ac amrywiaeth y gweithwyr sy’n ymroi at wahanol adrannau yn faith. Ni ddylem felly syrthio i’r trap o geisio gwneud popeth neu o symud o un ardal i’r llall.

Yn hytrach, fel Cristnogion, rydym yn cydnabod presenoldeb Duw yn Ei greadigaeth ac yn ein natur a’n cymeriad ninnau, ac o’r herwydd yn ymddiried ynddo i’n harwain at ble gallwn fod fwyaf effeithiol. Bydd hyn yn amlach na dim yn unol â’n diddordebau a ble rydym yn digwydd bod eisoes.

Boed i’ch Pasg fod yn llawn cyfleoedd i ddangos pam fod gennym reswm dros obaith – nid mewn athroniaeth, dysgeidiaeth neu grefydd, ond yn Iesu Grist fel yr un a ddaeth i drawsnewid ein bywydau ond hefyd ein cymdeithas yn llwyr.

Ei gariad achubol a ddangoswyd ganddo drwy’r Groes a’i gadarnhau drwy’r bedd gwag, roddodd y gallu a’r nerth i’w ddisgyblion a’i ddilynwyr drwy’r oesau i weithio am well byd a bywyd i bawb o’u hamgylch.