Daw Croes Cymru adref
Gan Dr Grahame Davies, Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth yr Eglwys yng Nghymru, a chyn Ddirprwy Ysgrifennydd Preifat y Brenin.
Pan gafodd y Brenin Siarl y Trydydd ei Goroni ar Fai 6ed, roedd gan Gymru ran blaenllaw iawn yn y seremoni am y tro cyntaf erioed.
Wrth i orymdaith y Coroni gyrraedd cangell Abaty Westminster, fe glywyd Syr Bryn Terfel yn codi’r to gyda’i berfformiad o’r Kyrie, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y cyfansoddwr o Gymro, Paul Mealor, ac a ganwyd yn yr iaith Gymraeg: ‘Arglwydd Trugarha. Crist Trugarha. Arglwydd Trugarha.’
Ychydig yn ddiweddarach, roedd y Gymraeg i’w chlywed eilwaith wrth i gôr yr Abaty ganu’r Veni Creator Spiritus nid yn unig yn y cyfieithiad Saesneg traddodiadol ond hefyd yn y Gymraeg, yng Ngaeleg yr Alban ac yn y Wyddeleg – yn dyst o gefnogaeth y Brenin hwn i’r dreftadaeth Geltaidd.
Dyna gyflwyno’r iaith at gynulleidfa fyd-eang o gannoedd o filiynau, gan ddilysu ein diwylliant mewn modd na fu ei debyg o’r blaen.
Ond nid dyna’r unig ffordd y cafodd Cymru ei chynrychioli yn y seremoni hanesyddol hwn. Fe arweinwyd gorymdaith y Coroni gan groes orymdeithiol newydd a grewyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ac a adwaenir wrth yr enw ‘Croes Cymru’.
Daeth y syniad o greu’r Groes imi yn ôl yn 2019. Bryd hynny, y bwriad oedd i’r Brenin ei chyflwyno i’r Eglwys yng Nghymru fel rhodd i nodi canmlwyddiant Datgysylltiad yr Eglwys. Cyflawnwyd y dasg gyda chymorth parod Cwmni’r Gofaint Aur, un o gwmnïau lifrau enwog Dinas Llundain, a dalodd am y gwaith ac a oruchwyliodd y broses o greu.
Defnyddiwyd arian a ailgylchwyd o’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i greu’r Groes ei hun, ac fe grewyd y siafft allan o dderw Cymreig a gwympodd mewn storom. Ar gefn y Groes, drwy waith y crewr Michael Lloyd, fe geir, yn Gymraeg, y geiriau enwog o weddi olaf Dewi Sant: “Byddwch Lawen, Cadwch y Ffydd, Gwnewch y Pethau Bychain”
Ddechrau 2022, fe ychwanegwyd elfen hynod o werthfawr i’r prosiect pan gynigiodd y Pab Ffransis roi darn o’r Wir Groes i gael ei gynnwys yn y Groes, fel rhodd personol i’r Brenin ac fel arwydd hynod arwyddocaol o gyfeillgarwch eciwmenaidd.
Pan fu farw’r ddiweddar Frenhines fis Medi 2022, ac wrth i’r trefniadau ar gyfer y Coroni ddechrau fynd rhagddynt, penderfynwyd y byddai’r Groes yn arwain y brif orymdaith i fewn i’r Abaty yn ystod y seremoni. A dyna a ddigwyddodd. Roedd syniad a gychwynnodd fel modd o ddangos parch at Gymru, ei Heglwys a’i hanes, wedi tyfu’n arwydd rhyngwladol o gymod.
Mae’r Groes bellach yn ôl yng Nghymru, lle bydd yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yng Nghymru fel arwydd parhaol o’n treftadaeth Gristnogol gyffredin.