Cenwch i’r Arglwydd!
Mae Tessa Briggs yn ystyried pwysigrwydd cerddoriaeth mewn addoliad.
Ers y cyfnodau hanes cynharaf darllenwn am ganu a chaneuon yn bod wrth galon perthynas y ddynoliaeth â Duw. Er enghraifft, bu Miriam a Moses yn canu eu diolchgarwch i Dduw ar ôl croesi’r Môr Coch yn ddiogel; casgliad o ganeuon yw’r Salmau i’w canu gan gynulleidfaoedd cyfan; canodd Mair ei ‘ie’ i Dduw yn y Magnificat a chanodd yr angylion eu moliant i’r Oen yn Llyfr y Datguddiad.
Mae rhai o gyfansoddiadau cerddorol mwyaf enwog y byd yn weithiau cysegredig. Pwy, er enghraifft, na sydd yn gyfarwydd ag o leiaf rannau o Feseia Handel? Yna mae Gloria Vivaldi a Gorffwysgan Verdi neu Mozart a St Matthew’s Passion gan Bach. Mae perffomiadau rhain a gweithiau tebyg yn tynnu cynulleidfaoedd mawr sydd yn eu tro’n cael eu cyfareddu ganddynt. Fel y dywedodd Hans Christian Andersen unwaith “Pan fo geiriau’n methu, mae cerddoriaeth yn llefaru’. Mae’r sawl sydd yn dechrau colli eu golwg neu eu cof yn gallu ymuno i ganu hoff emynau sydd ar gof ganddynt ers plentyndod. Yn wir, ceir peth tystiolaeth fod cerddoriaeth a fwynhawyd rhwng 10 oed a 30 oed yn parhau a bod canu ar y cyd yn cael effaith llesol.
Rai blynyddoedd yn ôl roeddem ni yn Eglwys Y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth wedi llunio rhestr o flaenoriaethau ar gyfer cenhadaeth. Ymhlith rhain roedd cerddoriaeth i chwarae rhan mor flaenllaw â phosibl yn ein bywydau a’n haddoliad ac y dylem weithio i ddatblygu côr. Heddiw mae gennym yn rheolaidd gôr pedwar llais ar y Sul sy’n cynnwys wyth aelod. Weithiau cawn wasanaeth arbennig pan fydd eraill o’r gymuned yn ymuno â ni. Ar gyfer ein Gwasanaeth Carolau Adfent ym mis Rhagfyr, cawsom dri aelod ychwanegol, a’r tri wedi dweud er na fyddant yn ymuno â ni’n rheolaidd, y byddant yn hoffi’n fawr cael bod yn rhan o’r côr ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol.
Rydym yn ffodus fod gennym rota o organyddion a chyfeilyddion arbennig a dywedwyd wrthym fod yr organ yn un ardderchog ac yn werth ei gynnal a’i gadw (er weithiau’n gostus!)
Nid ydym yn gôr mawr mewn unrhyw ffordd ond ar ôl hel barn y gynulleidfa, roedd yn amlwg bod cerddoriaeth mewn addoliad yn bwysig iawn iddynt, hyd yn oed yn hanfodol iddynt a’u bod yn gwerthfawrogi’r côr.
Mae emynau’n cyfoethogi gwasanaethau ac yn annog pawb i gymryd rhan - gallant gael eu canu gan bawb heb orfod ystyried eu gallu cerddorol. Mae corau o unrhyw faint yn arwain y canu, yn annog y gynulleidfa i gymryd rhan ac yn cyfoethogi’r addoliad.