Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 O Marx i Sant Marc

O Marx i Sant Marc

Sheridan Angharad

Gadewch i fi gyflwyno fy hun. Fy enw i yw Sheridan Angharad James a fi yw’r Canon Bugeiliol yn yr Eglwys Gadeiriol.

Y cwestiwn cyntaf mae pawb yn gofyn yw – “O ble ydych chi’n dod yn wreiddiol?”. Wel, mae fy nheulu yn dod o Abertawe, roedd fy mam yn siarad Cymraeg yn rhugl ond dyw’n nhad ddim. Ces i ngeni ym Manceinion ac yna byw yn Essex nes yr oeddwn i’n saith mlwydd oed, a nôl i Gaerdydd. Yno dysgais i i siarad Cymraeg a chael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg cyn astudio Ffrangeg a Saesneg yn Aberystwyth.

Doedd fy rhieni ddim yn Gristnogion, ond o gefndir Marcsaidd . Roedden nhw yn wleidyddol iawn ac o hynny y daeth fy ymrwymiad i faterion cyfiawnder a chydraddoldeb. Pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed, cafodd fy rhieni dröedigaeth ddramatig, a daeth fy chwaer a finnau yn Gristnogion hefyd.

Roedd hyn yn gyfnod hynod o bwysig yn fy mywyd – pan ddaeth ffydd yn Iesu Grist yn fyw i fi. Doedd bron dim cefndir eglwys na chapel gen i, ond ces i brofiad gwefreiddiol o Grist – a newidiodd fy mywyd. Fe wnaeth y sicrwydd o gariad Duw yn fy nghalon greu awydd ac awch i ddilyn Crist byth oddi ar hynny.

Wedi mynychu St Mike’s a Santes Fair yn Aberystwyth, yn 28 es i i Eglwys Anglicanaidd St James, Tooting. Roeddwn i’n arwain grwpiau astudio’r Beibl, chwarae gitâr a chanu. Ond doedd menywod ddim yn cael bod yn offeriaid – a minnau heb feddwl amdano ac es i i’r byd cyhoeddi am 13 mlynedd.

Ond yn fy nhridegau fe deimlais i’r alwad i’r weinidogaeth ac yn 40 roeddwn i’n ficer mewn plwyf amlddiwylliannol, bywiog yn Llundain, ger Greenwich, am ddeuddeg mlynedd. Roedd tua 10 iaith wahanol yn cael eu siarad yn y gynulleidfa . Roedd hi fel Dydd y Pentecost bob dydd Sul! Ond roeddwn wrth fy modd fel offeiriad plwyf, yn dysgu, byw, gweddio, ac addoli.

Ac yn nawr rwy’n Ganon Bugeiliol dros y plwyf hwn a’i phererinion, yn gallu gwasanaethu fel offeiriad plwyf – fel pob ficer – ond mae hefyd berspectif cenedlaethol a rhyngwladol wrth groesawu’r pererinion – rhyw 200, 000 ohonynt bob blwyddyn. Mae fy swydd yn amrywio o wythnos i wythnos – pregethu, gwneud gwaith bugeiliol, arwain pobl ar bererindod, trefnu diwrnodau tawel ac asudiaethau beiblaidd, gwasanaethau bedydd, priodas ac angladdau, gwasanaethau yn yr ysgolion lleol. Fel siaradwraig Cymraeg brwdfrydig dwi’n helpu hybu’r Gymraeg yma ac yn gyfrifol am y Cymun Bendigaid uniaith Gymraeg ar bedwerydd Sul y mis.

Bu’n antur ac yn fraint – nawr am yr ail bennod!

canonpastor@stdavidscathedral.org.uk