Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Adfywio Bioamrywiaeth Mynwentydd

Adfywio Bioamrywiaeth Mynwentydd

Mae menter Gymreig ar gyfer rheoli gweirdir wedi gweld datblgiadau cadarnhaol. Andrea Gilpin, Ecolegydd ar gyfer Gofalu am Erwau Duw (Caring for God’s Acre) sy’n amlinellu’r canlyniadau.

Bodiversity Hotspots [recording, St Michaels, Llandre]

Cynhaliwyd menter Poethfâu (‘hotspots’) Bioamrywiaeth ar Draws Cymru rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2023, wedi ei ariannu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Gofalu am Erwau Duw. Anelwyd y cynllun at gefnogi wardeiniaid a rheolwyr mynwentydd wrth iddynt ymroi at wella bioamrywiaeth gweirdiroedd o fewn eu safleoedd ac fe’i rheolwyd gan GaED ar draws siroedd Wrecsam, Y Fflint, Dinbych, Ceredigion a Phowys.

Harebells at St Michael's Llandre

Mae mynwentydd, sy’n aml gyda’r safleoedd caeedig hynaf o fewn plwyf, tref neu ddinas, yn cynnig gweirdir sydd bron heb ei gyffwrdd na’i newid ers amser hir, ers canrifoedd yn aml. Mae’r broses naturiol a graddol o ail hadu dros gyfnod maith wedi ysgogi datblygiad eco-system amrywiol ei gweirydd, ei blodau a’i chreaduriaid. Erbyn hyn, mae’r gweirdiroedd hynafol hyn oedd mor gyffredin ar draws y DU un amser, yn anghyffredinedd. Mynwentydd, erbyn hyn, yw hafan neu Arch Noa, hyd yn oed, y cynefin hwn sy’n prysur brinhau.

Cynigodd y fenter ganlyniadau arbennig a hynny o ddiolch i ymroddiad wardeiniaid a gwirfoddolwyr lleol eraill.

  • Cefnogodd y cynllun bedwar-ugain o bencampwyr gwirfoddoli â’u bri ar feithrin bioamrywiaeth ar eu safleoedd.
  • Cynhaliwyd dros hanner-cant arolwg gweirdir mewn mynwentydd a chafwyd mewnwelediad gwerthfawr i’r bioamrywiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd.
  • Cyflwynwyd cyfanswm o bymtheg gweithdy hyfforddiant er mwyn grymuso wardeiniaid a rheolwyr mynwentydd gyda’r sgiliau a’r wybodaeth oedd eu hangen.
  • Datblygwyd dros 90 Brîff Rheoli Bioamrywiaeth i weithredu fel canllawiau angenrheidiol ar gyfer rheolaeth gweirdir.
  • Adnabuwyd dros ugain safle drwy’r cynllun fel enghreifftiau model o arfer dda parthed cadwraeth bioamrywiaeth mewn mynwentydd.
  • Cynhyrchwyd bedair ffilm wybodaeth fer sy’n tywallt goleuni ar bwysigrwydd bioamrywiaeth mynwentydd.
  • Adnabuwyd dwy-fynwent-ar-hugain fel safleoedd rhannu hadau – cam hollbwysig er adnabod safleoedd â chanddynt y potensial i gyfrannu at adfywio ardaloedd flodeuol gyfoethog ar draws yr ardal.
  • Cwblhawyd astudiaethau achos a chynnig enghreifftiau gwerthfawr o gyfoethogi bioamrywiaeth llwyddiannus mewn mynwentydd.

Yn ystod yr un cyfnod, roedd cynllun arall, Mynwentydd Cymreig er gyfer Bywyd Gwyllt, (Welsh Burial Grounds for Wildlife) wedi ei ariannu gan Gronfa Elusennol Tywysog Cymru, ar y gweill. Cynhyrchodd adnoddau, ar gael am ddim yn Gymraeg a Saesneg ar y wê, gan gynnwys arweiniad ar goed hynafol ac oedrannus, gweirgloddiau cyfoethog eu blodau, cennau, ymlusgiaid ac amphibiaid. Mae’r cyraeddiadau a’r adnoddau sydd wedi tyfu o’r mentrau hyn yn ddefnyddiol, nid yn unig o fewn yr ardaloedd penodol oedd yn rhan o’r gwaith ond hefyd fel sgerbwd cynllun mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Gellid cael gafael yn yr adnoddau a’r wybodaeth a gynhyrchwyd yn ystod y mentrau ar wefan www.caringforgodsacre.org.uk a gellid holi neu gael cyngor pellach trwy gysylltu ag andrea@cfga.org.uk