Deddf Ailgylchu….ailgylchwyd
O Ebrill 6,2024, bydd deddf ailgylchu heb fod yn y cartref yn newid yng Nghymru
O dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd angen i bob eglwys a neuaddau eglwysig drefnu eu gwastraff i’w ailgylchu yn fwy trylwyr er mwyn codi cyfraddau ailgylchu ac osgoi mater croes-lygriad posib.
Y mae’r gofynion newydd yn ychwanegol at y rhai a osodwyd yn 2012 a’r gwaharddiad ar blastig untro, a gyflwynwyd llynedd.
Bydd angen rhannu gwastraff i’w ailgylchu i chwe cynhwysydd gwahanol gan berchennog/rheolwr y safle, neu gan drefnydd gweithgaredd a gynhelir yno. Y categoriau sy’n berthnasol i eglwysi yw:
- Gwydr
- Plastig, metel a chartonau
- Papur a cherdyn
- Gwastraff bwyd
Bydd dau gategori pellach yn cynnwys tecstiliau ac offer trydanol bach yn dilyn yn y 2-3 mlynedd nesa.
Bydd y newidiadau yn ei gwneud yn anghyfreithlon i ddanfon unrhywbeth o fewn y categoriau i dirlenwi. Gallai gweithredu yn groes arwain at ddirwyon gan yr awdurdodau lleol, er bod Llywodraeth Cymru yn dweud mai’r bwriad yw atgoffa ac addysgu yn gyntaf cyn gosod dirwyon.
Gwastraff bwyd
Y mae’r rheol gyfreithiol i rannu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i safleoedd sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd bob wythnos. Serch hynny, y mae’n arfer dda i rannu ac ailgylchu holl wastraff bwyd, hyd yn oed maint bychan, a gellir casglu hyn o eglwysi am ddim fel gwastraff cartref.
Yn ogystal, bydd gwaharddiad ar waredu unrhyw faint o wastraff bwyd lawr y sinc neu i garffosiaeth gyhoeddus. Y mae hyn yn cynnwys nid yn unig gwacau bwyd yn uniongyrchol i’r sinc neu gwter ond hefyd na ellir defnyddio offer megis tanc malu, treuliwr ensym neu di-ddyfrydd. Dylai eglwysi sicrhau bod defnyddwyr eu safleoedd yn ymwybodol o hyn. Ni fydd raid i chi waredu offer o’r fath sy gyda chi, ond dylid eu dadgysylltu. Bydd gwacau gwastraff bwyd i gwteri cyhoeddus yn anghyfreithlon a rhoddir hysbysiad cosb penodol i’r safle neu’r trefnydd addas.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth mewn arweiniad a gyhoeddwyd ar dudalennau Newid Hinsawdd ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.