Ar y ffordd eto
Wel, bron…mae Kay Owen yn mynd yn ôl ar y llwybr codi arian
Efallai y bydd rhai darllenwyr yn cofio erthygl a ysgrifennais dair blynedd yn ôl am fy nhaith feic elusennol hanner marathon a gododd dros £900 ar gyfer y Genhadaeth Gyfiawnder Rhyngwladol (IJM). Yr haf diwethaf penderfynais ei bod yn amser codi arian eto a dechreuais gynllunio sut i fynd ati.
Cynllun A: Ymarfer ar y llwybr beicio i wneud yn siŵr fy mod yn dal i allu rheoli'r 13 milltir, tyllwyd teiar yn sydyn a chefais fy nhaflu'n ddiseremoni i’r ffos yn llawn graean budr. Methu codi a heb enaid yn y golwg i'm helpu (ac eithrio buwch braidd yn ddryslyd yn syllu â llygaid llydan dros y ffens), briwiau a chleisiau ym mhobman, sylweddolais fy mod mewn helbul difrifol. Help, Arglwydd!
Wrth imi orwedd yn y ffos, yn teimlo’n reit flin dros fy hunan, cefais weledigaeth sydyn o’r holl blant a phobl ifanc a oedd, ar yr union funud honno, yn cael eu herwgipio a’u gwerthu i buteindai a siopau chwŷs. Roedd hynny'n rhoi pethau mewn persbectif yn gloi ac roedd disgyn oddi ar feic yn ymddangos fel taith gerdded yn y parc o'i gymharu.
Fodd bynnag, gydag arian nawdd sylweddol eisoes wedi’i addo, roeddwn mewn anobaith; Roeddwn i'n gwybod y byddai'n amser hir cyn i mi allu mynd allan i feicio eto. Roeddwn i angen cynllun newydd. . .
Cynllun B: Wrth i mi weddïo am sut i oresgyn y cyfyng-gyngor hwn, ces i foment bwlb golau: unwaith roeddwn i wedi gwella digon, beth am reidio’r un pellter ar feic llonydd a thrwy hynny gyflawni’r meini prawf? Yn ddiolchgar i Dduw am ateb gweddi, es ati i gysylltu â'm holl noddwyr, a gytunodd yn rhwydd i anrhydeddu eu rhoddion. Felly yn lle beicio ar hyd llwybr arfordirol gwyllt Cymru, pedlo i ffwrdd yn fy ystafell fyw a chwblhau'r 13 milltir mewn cysur cymharol!
Mae masnachu mewn pobl ar ei lefel uchaf erioed ledled y byd; mae'r datganiad gweledigaeth a rennir gan y ddwy elusen yr wyf yn eu cefnogi yn darllen yn syml - “Hyd nes y bydd pawb yn ddiogel ac yn rhydd“. Edrychwch ar eu gwefannau (www.ijm.org a www.houseofopportunity.org) i ddarganfod mwy am sut maen nhw'n gweithredu, a pharhewch i “fod yn ffyddlon mewn gweddi” dros y gwaith hanfodol hwn (Rhufeiniaid 12:12).
I gloi, rwyf mor ddiolchgar i’r holl ffrindiau hynny a gyfrannodd mor hael at fy ymdrech i godi arian, gyda diolch arbennig i gynulleidfa Eglwys y Santes Fair. Gyda'n gilydd fe wnaethom ni godi dros £1000.
Dywedodd Iesu, “Rwy'n dweud y gwir wrthych, beth bynnag a wnaethoch i un o'r lleiaf o'r rhain fy mhlant, gwnaethoch i mi”. Mathew, 24:40