Nid yw bywyd athro gwirfoddolwr am ysgol yn unig!
Y mae Theresa Haine yn dwyn i gof atgofion melys o gwmpas Madagascar
Roedd y Llysgennad Prydeinig newydd a’i wraig, a gyrhaeddodd Madagascar yn fuan ar ôl fi, ill dau yn gerddorion. Yr oedd ef yn glarinetydd ardderchog a hithau’n canu’r piano yn wych ac yn cyfansoddi. Roeddwn i’n canu’r ffliwt ac fe’m gwahoddwyd am ginio a cherddoriaeth ar nos Sadyrnau pan oeddwn yn y brifddinas.
Cefais anrhydedd o gael chwarae gyda nhw am gyfnodau am bedair mlynedd. Roedden nhw’n bobl arbennig ac hyd yn oed wedi fy nghwahodd i aros gyda nhw wedi dod allan o’r ysbyty ar ôl dioddef o hepatitis. Treuliais lawer awr wrth wella yn gwrando ar Mervyn yn ymarfer sonatas Brahms ar ei glarinet, gyda Beth yn cyfeilio ar y piano.
Aethom hefyd ar daith gofiadwy i’r ffair wartheg flynyddol yn Tsiroanamandidy – y tri ohonom a’r gyrrwr yn ei lifrai yn y landrover llysgenhadol gyda Jac yr Undeb yn chwifio ar y bonet. Gwelodd Mervyn ffordd fach ar y map a redai ochr yn ochr â’r brif ffordd a phenderfynu ei bod yn edrych yn ddiddorol. Ac felly yr oedd, nes i ni ddod at ran gul iawn gyda chloddiau uchel ar bob ochr a daeth mochyn bach du o unman a rhedeg o’n blaenau am tua 3 mya am gyfnod hir! O’r diwedd diflannodd y mochyn. Yna daethom at afon heb bont a dim posib troi nôl felly rhaid i’r gyrrwr yrru’r landrover yn ei ôl am filltiroedd. O’r diwedd cyrhaeddom Tsiroanomandidy ble safodd y Llysgennad a’i wraig yn y gwesty gorau yn y dre ond heb ddarparu tywelion na phapur tŷ bach! Yn lwcus, gallodd y wirfddolwraig o Grynwr roi rhain iddynt , ac wedi’r ymweliad dychwelon, yn ddi-drafferth, i’r brifddinas ar y ffordd fawr.
Ar Ddiwrnod Annibyniaeth, es i gyda rhai o‘r plant hŷn i ymweld â man geni un o wragedd brenin enwog Madagascar o’r 18fed ganrif. Wedi ymlwybro ar draws y caeau reis daethom i fryn bach gyda llwybr yn troelli i fyny gyda saith o gatiau bob yn ail â cherrig mawr, megis beddrod Crist, yn barod i’w rholio i’w lle i gau pob un a gwneud y bryn yn amddiffynfa. Ar y pen yr oedd planhigion ‘chilli’ gwyllt yn tyfu ym mhob man. Roedd y disgyblion yn eu casglu a’u bwyta gyda awch felly gwnes yr un peth. Aaaaaaa! Llosgodd fy ngheg a trodd fy wyneb yn sgarlad. Roedd fy nisgyblion yn chwerthin yn afreolus. Gwnes innau hefyd ond dyna’r tro cyntaf a’r olaf i fi fwyta ‘chillies’ amrwd!