Llai o straen ar draen
Jeremy Martineau sy’n esbonio pam mae gwneud hynny’n llesol - a’n dod yn haws - i bawb.
Gadewch eich car, cerddwch, ewch ar gefn beic, defnyddiwch drafnidiaeth cyhoeddus! Os taw hyn yw natur cynaliadwyaeth, mae’n berthnasol i frodorion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn ein cornel bach ni o Gymru. Mae’r rhwydwaith lwybrau cerdded o fewn ein esgobaeth wedi datblygu’n ardderchog dros y canrifoedd o’r amser pan nad oedd dewis ond cerdded i’r rhai heb geffyl. Erbyn hyn, mae llwybrau beicio drwyddi draw ar draws ein rhanbarth gydag ymwelwyr yn cario’u beiciau naill ai ar doeau’u ceir neu’n fwyfwy ar drên. Canfyddodd archwiliad yn 2019 fod 8% o ymwelwyr Abergwaun wedi cyrraedd fel hynny. Bydd perfformiad tlawd y gwasanaeth trenau yn ddiweddar atal ymwelwyr hoffai gyrraedd fesul trafnidiaeth gynaliadwy, gyda’r trên yn bennaf effeithlon. Bydd trenau newydd a llawnach amserlen yn adfer hyder o deithio mewn trên.
Mae treulio gwyliau yn ein hardaloedd gwledig, prydferth yn dda i’r enaid. Mae cerdded neu feicio yn dda i’r corff hefyd. Mae’r trenau newydd wedi eu dylunio i allu cario mwy o feiciau.
Mae’r hen lwybrau pererindota yn cael eu hadfer gydag eglwysi hynafol yn dod yn lefydd aros yn ogystal ag i ymweld â nhw. Mae cyhoeddiad newydd “South West Wales without a Car,” newydd ei argraffu ac ar gael drwy https://www.southwestwales.co/ lle gallwch ei weld yn ddigidol yn ogystal.
Mae cynaliadwyaeth yn ymwneud â mwy na thrafnidiaeth – mae’n treiddio i holl gymeriad cymuned, ei bwyd a’i sefydliadau bywiog. Â’n cymunedau ar yr ymyl, man ble taw’r môr oedd traffordd pob cyfathrach, maent yn gwybod sut i gynnal eu hunain ac amddiffyn eu hunain rhag rhaib corfforaethau mawrion ac archfarchnadoedd. Bydd cynaliadwyaeth wrth galon neges Gŵyl Fwyd Abergwaun 2024 at gynhyrchwyr, tyfwyr a chwsmeriaid.
Bydd gofyn i ddarparwyr llety hyrwyddo ac argymell i’w hymwelwyr deithio ar drenau. Mae trafodaethau ar y gweill parthed tocynnau sy’n cyfuno teithio, digwyddiadau ac arhosiad dros nos er mwyn gwneud ein hardal, sydd fwy neu lai yr un â’r esgobaeth, yn boethfan cynaliadwy.