Nid ar ddynion yn unig mae angen sied!
Yr efengylwr arloesol Michelle Lloyd o Ganolfan Cenhadaeth Cross Hands sy’n canfod ffordd newydd i gwrdd ag eraill drwy ymuno yn y pethau sy’n digwydd yn y gymuned.
Daeth un o’n ffrindiau hŷn o “Impact 242” ar draws “Sied y Dynion” (Men’s Shed) a oedd wrth ei fodd o ran ei hoffter a’i dalent am greu o ddarnau pren wedi eu hailgylchu. Rhannodd wybodaeth am ddiwrnod agored y sied ac es innau gyda gwraig hŷn o’n heglwys “Impact” ni.
Cwrddom ni â gwragedd hyfryd yno a cawsom ni wybod y gellid cynnal grŵp gwragedd bob bore dydd Mawrth. Felly ganwyd “Sied y Gwragedd” gyda dim ond pump ohonom yn wreiddiol. Danfonwyd cwpwl o gyn ddarlithwyr i ddangos a’n harwain o ran offer a pheiriannau.
Wrth fynychu, rydw i wedi cael y cyfle i gwrdd a dod i adnabod y rhai sy’n galw yno yn ogystal â ‘ngalwedigaeth a’m ffydd. Carodd Crist ni’n gyntaf ac felly, rydw i’n gwneud yr un modd gyda’r bobl rydw i’n eu cwrdd ac yn eu cadw yn fy ngweddiau. Wyddoch chi ddim pryd cewch chi gyfaill newydd wrth Dduw o achos rhyw gysylltiad neu am ichi chwerthin gyda’ch gilydd, cydrannu profiadau neu estyn gair o gysur neu gariad pan oedd angen ar rywun arall.
Gofynnodd un o ‘nhiwtoriaid yn nyddiau fy hyfforddiant ym Myddin yr Eglwys, “Allwch chi ddychmygu pa olwg fyddai ar Deyrnas Duw yn y mannau yr ewch chi iddynt, lle rydych yn byw, yn gweithio, yn cymdeithasu?” “Wow!” meddyliais a daeth ataf fel fflach – “Mae Teyrnas Duw o’m mewn i ta ble af fi.” (Luc 17:20-21) Fe’m galwyd i “Dos a dywed wrth eraill y gallant fod yn ffrind, yn blentyn Duw, hefyd.” Rwy’n eich herio fel darllenwyr, trowch y sain o’ch mewn i fyny a rhannwch gyda’r sawl y cwrddwch.
Daeth hyd yn oed un famgu oedd yno i wirfoddoli o’i hamser i baentio golygfa o Narnia a gynyrchom ar gyfer y gymuned cyn Nadolig. Mae’n dwlu ar beth rydyn ni’n gwneud ac erbyn hyn yn dod â’i hwyres i’n grŵp ‘Sêr Bach.’ Daeth mam arall oedd yn y sied gyda’i phlant i’n digwyddiad Narnia ac mae eraill wedi rhoi ar gyfer ein siop ail law yn y ganolfan.
Mae wyth ohonom bellach yn creu, rhannu, dysgu sgiliau newydd a’n gofalu am ein gilydd drwy ein grŵp “WhatsApp” a’n cyfarfodydd rheolaidd. Hoffech chi ddod atom ni? Rydyn ni yn Drefach, dydd Mawrth 9.30-12.00. Cysylltiad – Michelle.lloyd@churcharmy.org neu ar 07421 308263.