Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 “Yr wyf yn addo fy hun i chi”

“Yr wyf yn addo fy hun i chi”

Enthronement 1

Y mae gorseddiad y Gwir Barch Dorrien Davies ar Chwefror 3ydd yn cwblhau’r broses o ddewis a sefydlu Esgob nesaf Tyddewi.

Enthronement 2

Dechreuwyd y gwasanaeth gyda’r Esgob Dorrien yn dod at ddrws Gorllewinol yr eglwys gadeiriol a churo tair gwaith, cyn gael mynediad gan y Deon a’r Cabidwl.

Derbyniodd yr Esgob eitemau’n cynrychioli agweddau o’i weinidogaeth:

  • Modrwy, yn arwyddocau awdurdod a’i addewid o ffyddlondeb i’r eglwys a’r bobl
  • Côp, neu glogyn, sy wedi dod yn arwydd o gyfranogiad yn addoliad yr eglwys
  • Meitr, y benwisg nodedig, a welir fel symbol o dafodau tân yr Ysbryd Glân a ddisgynnodd ar bennau’r apostolion ar ddiwrnod cyntaf y Pentecost
  • Crosier, neu ffon fugeiliol, fel ffon fugail, yn adlewyrchu esiampl Crist fel y Bugail Da

Defnyddiwyd y fodrwy gyda arwydd Esgobaethol, a’r crosier gemog, gyda delweddau o Grist, Sant Andreas a Dewi Sant, gan Esgob Basil Jones (1874-1897) ac roeddent yn anrhegion iddo. Yr oedd y Côp a’r Meitr yn rhai Esgob David Prosser (1920-1950), trydydd Archesgob Cymru.

Wedi’r bendithio, arweiniwyd yr Esgob Dorrien at yr orsedd Esgobol yn y Côr ac fe’i sefydlwyd yn seremonïol gan DdeonTyddewi, Dr Sarah Rowland Jones. Wedi iddo ddychwelyd i Gorff yr eglwys, y rhan ffurfiol wedi gorffen, fe’i cyflwynwyd i’r gynulleidfa, yn cynnwys pwysigion a chynrychiolwyr o bob rhan o’r esgobaeth, yn cynnwys Arglwydd Isgapten Dyfed, yr Uwch Siryf a Maer Tyddewi, i sŵn curo dwylo byddarol.

Enthronement 5

Yn ei bregeth, cofiodd Esgob Dorrien am ei ymweliad cyntaf â’r eglwys gadeiriol, yn wyth oed. ‘Feddylies i fyth y byddwn i ryw ddydd yn dod yma fel esgob’ meddai.

“Y mae heddiw yn golygu cymaint, yn adlewyrchiad a gwerthusiad o’r gorffennol, ac yn ddisgwyliad o beth ddaw yn y dyfodol”

“wrth i mi ddod i mewn i’r eglwys gadeiriol heddiw, cefais fy nghroesawu fel un sy wedi ei alw i wasanaethu. Yr wyf yn sylweddoli bod disgwyliad ohonof a sut y byddaf yn cyflawni fy ngweinidogaeth.”

“yr wyf yn cysegru fy hun i Dduw heddiw. Y wyf yn addo fy hun i chi, yn addo eich gwasanaethu mewn cariad, ac yn cyflwyno’r esgobaeth hon yn enw Crist i ddod â gobaith i’r di-obaith, diogelwch i’r ofnus, cysur i’r alltud, gwellhâd i’r toredig, teimlad o fod perthyn i’r rhai sy’n teimlo’n isel a diwerth, cefnogaeth i’r cryf ac Efengyl Bywyd i’r rhai sy’n marw.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, cyhoeddodd Esgob Dorrien fendith dros Ddinas Tyddewi a’r Esgobaeth tu allan i’r Drws Gorllewinol.

Cyfansoddwyd dau ddarn o gerddoriaeth, Ffanffer yr Esgob a Gorymdaith Esgobol, yn arbennig i’r gwasanaeth gan y cyfansoddwr Cymreig enwog Meirion Wynn Jones a gomisiynwyd gan Gyfeillion Eglwys gadeiriol Tyddewi.