Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Ffermwyr Da, Gwladgarwyr Da, Dinasyddion Da

Ffermwyr Da, Gwladgarwyr Da, Dinasyddion Da

YFC Wales Logo.png

Mae adroddiad diweddar, a lansiwyd yn y Senedd, yn adlewyrchu ar effaith Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) ar gymunedau gwledig yng Nghymru. Elfyn Davies yn edrych ar y canfyddiadau.

Mae’r C.Ff.I. yn fudiad ar gyfer pobl ifanc rhwn 10 a 28 oed. A na, does dim rhaid bod yn ffermwr i fod yn ffermwr ifanc.

Mae’r clybiau wedi eu lleoli mewn pentrefi a threfi ar draws Cymru ac mae pob clwb yng ngofal ei materion ei hun. O blith yr aelodau etholir swyddogion: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Trysorydd, Yrgrifennydd, Ysgrifennydd Rhaglen, Gohebydd y Wasg ayyb. Apwyntir hefyd gan yr aelodau Arweinyddion sy’n goruchwylio’r cyfan. Gwirfoddolwyr yw’r rhain yn rhoi o’u hamser i helpu ieuenctid a’r gymuned. Maent wedyn yn datblygu sgiliau arwain, trefnu a thrin arain ymysg eraill.

Mae pob clwb yn rhan o Ffederasiwn sirol. Mae 12 ohonynt yng Nghymru gan gynnwys Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae swyddogion gwirfoddol a threfnydd cyflogedig ym mhob sir sydd yng ngofal trefnu digwyddiadau a chystadlaethau. Y Ffederasiynau yma sy’n ffurfio C.Ff.I. Cymru, ac mae nifer o’r siroedd hefyd yn rhan o’r Ffederasiwn Cenedlaethol sy’n cyfuno clybiau ar draws Lloegr a rhannau o Gymru. Mae’r Ffederasiwn yn Sir Gaerfyrddin eleni yn dathlu 80 mlynedd ers i glybiau’r Sir ar y pryd ffurfio’r Ffederasiwn yn swyddogol. Roedd dros 40 o glybiau yn Haf 1944 ond bellach 18 o glybiau gweithredol sy’n bodoli yn y Sir.

YFCs [Ag Show]

Gellir rhannu effaith a budd y Mudiad yn ddau. Yn y lle cyntaf mae’n dod â buddion i’r bobl ifanc sy’n aelodau yn gymdeithasol a drwy fagu hyder a sgiliau. Yn ogystal a nosweithau cymdeithasol ac addysgiadol wythnosol mae cystadlu’n rhan bwysig o galendr y mudiad. Ac er mwyn cystadlu derbynir hyfforddiant a dysgu sgil newydd. Mae’r Mudiad yn cynnig pob math o gystadlaethau o rai amaethyddol megis barnu stoc a ffensio, i rai llwyfan megis drama ac adloniant, siarad cyhoeddus, ac eisteddfod, a rhai ymarferol megis gosod blodau, trin cyw iâr a gwaith coed.

Ond mae elfen arall i waith y mudiad sef cyfraniad cymunedol. Mae’r clybiau’n cynnal digwyddiadau i ddod â chymunedau gwledig at ei gilydd yn ogystal â chodi arian at elusen. Er enghraifft yn 2023 cododd C.Ff.I. Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin dros £10,000 at achosion da. Yn ystod pandemig COVID-19 bu aelodau’r C.Ff.I. yn helpu siopa a chasglu presgripsiwn i aelodau bregus y gymuned.

Felly mae gan gymunedau gwledig lawer i ddiolch i’r ffermwyr ifanc. Pan fydd eu Cwrdd Diolchgarwch neu Ganu Carolau cofiwch gefnogi. Dyma ddyfodol Cefn Gwlad: “Ffermwyr Da, Gwladgarwyr Da a Dinasyddion Da”.