Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Twristiaeth Ffydd- rhywbeth i’w drysori

Twristiaeth Ffydd- rhywbeth i’w drysori

Llanwnda Church [Visit Wales pic]

Y mae gan Gymru etifeddiaeth grefyddol hudol gyda llawer ohono ar gael i’w fwynhau. Y mae Ceri Jones o ‘Visit Wales’ yn egluro sut gall eich eglwys chi fod yn rhan o hyn.

Dros y blynyddoedd diwetha, y mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol, gyda chefnogaeth ‘Visit Wales’ wedi cyflwyno prosiect ‘Profiadau Cymru Sanctaidd’, gan weithio gyda thwristiaeth a a phartneriaid etifeddiaeth ffydd i groesawu ymwelwyr drwy greu profiadau y gellir eu bwcio a llwybrau yn cysylltu ffydd â safleoedd etifeddiaeth ehangach. Am fwy o wybodaeth am rai o’r Profiadau Twristiaeth Ffydd a hyrwyddir gan Visit Wales ewch i VisitWales.com

Y mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol yn ddiweddar wedi apwyntio swyddog cefnogi Cymru arbennig fel rhan o’r ariannu Cherish a roddwyd iddynt gan y gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Sefydlwyd Cherish i gefnogi eglwysi bregus.

Drwy Cherish gall mannau o addoli dderbyn cyngor a hyfforddiant am grantiau a gofal a chadw, fel y gallant gadw eu mannau o addoli mewn cyflwr da. Y mae cefnogaeth hefyd ar gael i helpu eglwysi i agor eu hadeiladau i ymwelwyr a thwristiaid, fel bo mwy o bobl yn gallu mwynhau yr etifeddiaeth wych y gall yr eglwysi hyn gynnig. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar ebost â Gareth Simpson

Gareth.Simpson@nationalchurchestrust.org neu

Ewch i www.nationalchurchestrust.org

Islaw ceir syniadau cyflym ar sut gall mannau o addoli gyd-weithio â Visit Wales. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Jones, Rheolwr Ymrwymiad Rhanbarthol Visit Wales ceri.jones057@gov.wales

  • Llwybrau:Cymru drwy Lwybrau –Yn 2023 a 2024 y mae Visit Wales yn gwahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i ddilyn llwybrau gogoneddus Cymru wrth i ni ddangos beth sy ar gael – gan ddefnyddio llwybrau fel man cychwyn i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd. Y mae ‘Llwybrau Wales, by Trails’ yn bwriadu ysbrydoli ein rhanddalwyr, partneriaid a’r cyfryngau, i ddefnyddio’r thema fel modd i arddangos yr ystod eang o gynhyrchion sy gan Gymru i’w cynnig. Y mae canllaw ar gael i bartneriaid diwydiannol i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio: LlwybrauIVisit Wales.
  • Byddwch yn Sicr Ansawdd a gwnewch y mwyaf o restr gwefan Visit Wales- mannau o addoli sy’n cynnig taith i ymwelwyr sy’n gallu bod yn rhan o

Visit Wales Visitor Attraction Scheme yn rhad ac am ddim

  • Edrychwch ar gyfleoedd i weithio gyda Travel Trade – mwy o wybodaeth am weithio gyda Travel Trade ar gael yma Working with UsITourism in WalesITravel Trade Wales (visitwales.com)
  • Rhowch eich newyddion, storiau a digwyddiadau i productnews@gov.wales – Rhowch wybod i ni beth sy’n newydd a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth wrth gynllunio ein gwefan a chynnwys cymdeithasol.
  • Ymunwch â Tourism Industry Newsletter Visit Wales a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol – Twitter: @VisitWalesBiz