Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Mae pob ceiniog yn cyfrif

Mae pob ceiniog yn cyfrif

Mae argyfwng costau byw’n gosod prosiectau Plant Dewi o dan fygythiad, fel mae Catrin Eldred, y rheolwraig yn egluro.

Nod staff a gwirfoddolwyr Plant Dewi yn 2024 yw dwyn gobaith i fwy o deuluoedd sy’n byw yn yr esgobaeth. Pob wythnos mae cannoedd o deuluoedd yn cael mynediad i grŵp neu ganolfan deuluol, a’n nod ni yw sicrhau bod ganddynt rywle i droi ato i ddathlu’r amseroedd da ac i dderbyn cefnogaeth yn yr amseroedd mwy anodd. Mae’n grwpiau a’n canolfannau teuluol yn derbyn arian oddi wrth ystod o ffynonellau, gan gynnwys cytundebau awdurdodau lleol, cyrff sy’n rhoi grantiau a chodi arian gan y cyhoedd, ac mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn y cymunedau hynny ble mae’r angen mwyaf.

Newcastle Emlyn Family Centre [Plant Dewi]

Fodd bynnag, mae’n tyfu’n fwy a mwy anodd i sicrhau’r ariannu - mae llai o arian ar gael oddi wrth y cyrff sy’n ariannu ac mae cost y prosiectau’n uwch oherwydd yr argyfwng costau byw - a hyn ar amser pan fo’r galw’n fwy nag erioed. Mae’r ystadegau’n dangos bod tua 30% o’r plant yn ein hesgobaeth yn byw mewn tlodi ac mae mwy nag 80% o’r rhain o fewn teuluoedd sy’n gweithio. Rydym ni bob un yn riant, yn famgu neu datcu, yn fodryb neu ewythr, yn gymydog neu’n ffrind i blant ifainc, ac mae gwybod nad yw pob un ohonynt yn cael yr un cyfleoedd arbennig mewn bywyd yn ofnadwy o drist. Mae prosiectau Plant Dewi yno ar gyfer teuluoedd sydd ag angen lle cynnes a chroesawgar i fynd iddo, clust sy’n fodlon gwrando, cefnogaeth, a weithiau cyfeirio at wasanaethau eraill, a rhywun yno i ddal eu llaw pryd bynnag y bydd angen. Heb y grwpiau a’r canolfannau yma o fewn y gymuned, byddai nifer o deuluoedd heb un man i fynd.

Rydym wedi ein bendithio i gael byw o fewn esgobaeth ble y ceir cymaint o gefnogaeth i Plant Dewi. Rydym yn cydweithio’n agos gyda nifer o eglwysi a grwpiau ymhell ac agos sy’n codi arian ar ein cyfer, sy’n codi ymwybyddiaeth o’n gwaith a sy’n gwirfoddoli gyda ni. Heb hyn byddai’n amhosibl inni wneud y gwaith o gefnogi’r teuluoedd mewn angen.

Wrth i’r gwanwyn ddod yn ystod Blwyddyn Halen a Golau yn yr esgobaeth, cysylltwch â ni i weld sut y gallwch chithau hefyd gefnogi gwaith Plant Dewi i sicrhau parhad y gwasanaethau tyngedfennol i blant, pobl ifainc a’u teuluoedd.

Ffôn 01267 221551, ebost - info@plantdewi.co.uk neu ewch ar ein gwefan - www.plantdewi.org.uk. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.