Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Trais Ethnig yn Manipur, Yr India

Trais Ethnig yn Manipur, Yr India

Mae'r Parchedig Shirley Murphy wedi siarad â phobl o lwyth y Kuki-Zo yn Manipur ond maent am fod yn anhysbys. Dyma eu stori.

Manipur Violence 1

Manipur Violence 2.jpg

Ar Fai 3ydd 2023, dechreuodd y trais yn Manipur, talaith gogledd ddwyreiniol yn yr India ble mae 53% o'r boblogaeth yn Metei. Dechreuodd y trais yn erbyn y Kuki Zo (sydd yn y lleiafrif) ar ôl i Undeb Myfyrwyr 'All Tribals' orymdeithio i brotestio yn erbyn gorchymyn y boblogaeth Meitei i gael eu cynnwys ar y rhestr llwythau rhestredig.

Yn unol â'r diffinaid a ddewiswyd yng Nghyfrifiad 1931, mae cymunedau ethnig brodorol yr India yn cael eu hamlygu gan eu cyntefigrwydd , arwahanrwydd, yn ddaearyddol, swildod a chymdeithasol, addysgiadol arafwch economeg fel llwythau rhestredig. Mae hwn yn fesur cadarnhaol ar gyfer dyrchafiad a chadwraeth llwythau brodorol yn yr India.

Gwnaeth y ffyrnigrwydd yn erbyn Kuki Zo gynyddu tu hwnt i reolaeth ar ôl halogiad o gofeb ryfel Anglo – Kuki gan y Meitei. Bu y rhyfel Anglo-Kuki rhwng 1917-1919. Mae pentrefi Kuki Zo yn parhau i dderbyn ymosodiadau.

Mae pobl Kuki Zo yn Gristnogion. Mae'r glanhau ethnig sydd wedi ei noddi gan y wladwriaeth wedi arwain at 41,425 o bobl Kuki Zo wedi eu dadleoli a dinistriad o 360 o eglwysi a synagogau.

Am saith mlynedd, mae ymdrechion unol y prif weinidog i bardduo y bobl lleiafrifol, drwy ei gyfrifon cyfrwng cymdeithasol yn eu cyhuddo o fod yn fewnfudwyr anghyfreithlon pan eu bod mewn gwirionedd yn lwyth brodorol. Gwnaeth y cyhuddiadau ffals yma ddylanwadu ei gymuned mwyafrifol sef y Meitei yn erbyn y Kuki Zo. Felly, gwnaeth y gymuned Meitei ddechrau erlid y bobl Kuki-Zo o ddyffryn Imphal yn ogystal ac o'r mynyddoedd.

Yn dilyn arolwg o ddrws i ddrws marciwyd drysau tai y Zuki-Zo gan baent neu rhif fel esgus o ddarganfod mewnfudwyr anghyfreithlon. Bu ymdrechion i roi rhif adnabod unigryw i bob eiddo Kuki-Zo. Tra bod trwyddedau drylliau y bobl Kuki-Zo yn cael eu canslo, cafodd 4000 o drwyddedau eu rhoi i gymuned Meitei fel ffordd o ddiarfogi y bobl Kuki-Zo ac arfogi y bobl Meitei. Yn Chwefror 2023, cafodd poblogaeth K.Songiang, pentref 200 oed eu hel oddi yno gan y llywodraeth.

Terfynwyd y gwasanaeth Wê yn Mai 2023. Er gwaethaf hyn aeth fideo yn feiral , fideo o 2 wraig Kuki-Zo,yn eu dangos yn cael eu gorymdeithio yn noeth ac wedi eu treisio fel rhan o drais giang. Lladdwyd 158 o bobl diniwed Kuki-Zo yn Imphal, y brif ddinas. Llosgwyd mwy na 7,000 o gartrefi y Kuki-zo, a dros 200 o bentrefi y Kiku-Zo wedi eu dinistrio. Y prif rheswm dros y lladd milain yw bod y Meitei, y bobl yn y mwyafrif, am ennill tir hynafol y bobl yn y lleiafrif, sef y Kuki-Zo.

Os gwelwch yn dda gweddiwch dros y bobl yma, eu teuluoedd a'u cenedl.