Penbleth Siopa Moesol
Masnach Deg (Fairtrade) neu Gynghrair Coedwigoedd Glaw (Rainforest Alliance)? Ein swyddog Gofal am y Greadigaeth, Marcus Zepperlen sy’n bwrw golwg dros y ddau.
Mae dau label i’w gweld yn amlach nag erioed erbyn hyn ar siocled, coffi, te, bananas a chnau yn ein harchfarchnadoedd, sef labeli Masnach Deg a broga Cynghrair Coedwigoedd Glaw. Fel eglwys a rhanbarth Masnach Deg, rydym yn fwy cyfarwydd â chynnyrch y mudiad hwnnw, debyg, ond beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt? Pe bai dewis, p’un ddylwn brynu? Mae cynllun Masnach Deg yn ceisio sicrhau isafbris teg i ffermwyr am eu cynhaeaf er mwyn diogelu lles a budd i’w cymunedau. Ond rhaid hefyd wrth benderfyniadau democrataidd ac ymwrthodiad â llafur plant. Yn ychwanegol at hyn, mae gofyn i ffermwyr weithio at wella safon eu tir a’u dŵr, i ymwrthod â chemegau niweidiol, i leihau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth.
Trefniadaeth di-elw yw’r Gynghrair Coedwigoedd Glaw sy’n anelu bennaf at ddiogelu a chynnal bioamrywiaeth drwy fynnu bod cynhyrchwyr yn amddiffyn eu hamgylchedd tra’n ffermio a dosbarthu. Er mwyn cael achrediad, mae’n rhaid cynnwys mesurau er gwella cyflwr cymdeithasol y gweithwyr, ond does dim sicrhad o isafbris cynnyrch. Does dim goruchwyliaeth uniongyrchol o berfformiad y cwmniau. Ceir yn hytrach ddisgwyliad eu bônt yn cynnal trefniadau goruchwyliaeth a datblygu perfformiad eu hunain. Mae Masnach Deg yn dilyn trywydd mwy ymyrrol er diogelu safonau tra bod Cynghrair Coedwifoedd Glaw yn hapus i ddilyn trefn fwy llac sy’n dilyn y farchnad.
Gan fod y ddwy drefn yn ardystio nifer o ’run cynhyrchion, p’un ddylwn i ddewis? Mewn gwirionedd, mae’r ddwy yn flaenllaw ac yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol wrth ofalu am y greadigaeth ac amddiffyn bywoliaeth pobl, felly nid mater o ‘naill ai neu’ yw hi. Maent yn cynnig dau fan cychwyn gwahanol; Masnach Deg yn bennaf o gyfeiriad cynaladwyaeth cymdeithasol a Chyngrair Coedwigoedd Glaw o gyfeiriad amgylcheddol, ond mae eu safonau yn gorgyffwrdd i raddau helaeth iawn.
Er enghraifft, mae’r Gynghrair Coedwigoedd Glaw yn derbyn hyd at 10% o gynnyrch o fannau anachredadwy tra bod Masnach Deg yn mynnu cydymffurfiaeth 100%. Heb isafbris, mae’n bosib y gallai ffermwyr gael eu temtio i ddefnyddio llafur plant, fel y canfuwyd yn Ghana gan Cynghrair Coedwigoedd Glaw yn ddiweddar. Mae’n ddiddorol nodi fod rhai o’r cwmnioedd mawrion, gan gynnwys Cadbury’s yn 2016 a Kit-Kat yn 2020, yn dewis cyfnewid labeli o un i’r llall yn ddiweddar. Gallwch fod yn siŵr nad gwneud hyn er tynhau eu cymwysterau cymdeithasol ac amgylcheddol y maent.
Yn rhwydd iawn, os oes cyfle i brynu cynnyrch Masnach Deg, ewch am hwnnw ond os na, dewiswch gynnyrch Cynghrair Coedwigoedd Glaw gan eu bônt yn hybu gofalaeth dda .... er, mae’n haws i gwmnioedd llacach eu hymrwymiad i guddio tu ôl i label y broga nag yw hi i Ffarmwr Masnach Deg.