Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Myfyrdod Pasg

Myfyrdod Pasg

Fel Cristnogion, mae gwir angen inni gydnabod ein dibyniaeth ar gariad achubol Iesu. Mae aberth Crist ar y groes wedi dod â ni i ddechreuadau newydd, fe'u cyrhaeddir trwy ei gariad aberthol ar y groes, heb arbed dim a rhoi popeth er mwyn i ni gyrraedd yr hyn a gollwyd i ni, sef bywyd tragwyddol.

Mae'r Garawys yn daith, nid yw'n hawdd ac mae'n gofyn llawer gan bob un ohonom. Pan oeddwn yn fachgen gwnes bererindod o Hwlffordd i Dyddewi, meddyliais y byddai’n hawdd, ond daeth cerdded drwy’r nos, mewn gwynt a glaw ofnadwy, yn baglu yn y tywyllwch yn hunllef. Roedd yr hyn a oedd i fod yn brofiad ysbrydoledig yn ofnadwy. Dysgodd y bererindod honno i mi y byddai bywyd fel hyn, mae profiad wedi fy nysgu nad yw dibyniaeth ar fy ngalluoedd a’m cryfder fy hun yn ddigon, mae’n rhaid i mi ddibynnu ar gariad Iesu, nid yw erioed wedi fy siomi, ac mae bob amser wedi bod yno i godi fi pan syrthiaf ar daith bywyd, a gosod fi unwaith eto ar y llwybr iawn. Fel ysgrifennodd Ann Griffiths,

Er mai cwbwl groes i natur
Yw fy llwybyr yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hynny’n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb-pryd;
Wrth godi’r groes ei chyfri’n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw;
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
I ddinas gyfaneddol yw.

Wrth imi ysgrifennu'r neges hon rwy'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn ofnus, yn llawn pryder, mae'r byd mewn cyflwr ofnadwy, mae'n ymddangos ein bod ar drothwy rhyfel.Dim ond newydd ddod i delerau ag effeithiau covid yr ydym a sut mae wedi difetha ein bywydau a'n hyder. Mae cymdeithas yn doredig ac ychydig iawn o barch ac urddas sydd at fywyd dynol. Os mai pererindod yw hon, yna mae'r ffordd yn wir beryglus i deithio ar ein pennau ein hunain. Mae'r ateb yn syml, tu hwnt i realiti llwm y groes mae gobaith byw, Iesu. Mae'r Arglwydd yn ein galw i fodolaeth well, lle mae pechod yn cael ei faddau, rydym yn cael ein hiacháu a'n hadfer i berthynas well â'n Duw. Mae’r gwahoddiad yno, does ond rhaid i ni gymryd llaw ein Harglwydd ac fe fydd yn ein harwain i fywyd tragwyddol a llawenydd Ei Atgyfodiad.

Pob Bendith i chi a’ch teuluoedd,

Yng Nghrist,

+Dorrien Tyddewi