Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Dyddiadur Gwraig i Berson

Dyddiadur Gwraig i Berson

polly zipperlen 1

Polly Zipperlen sy’n ystyried y da a’r drwg mewn siarad yn groes-graen trwy gamddeall.

Roedd Mam yn dwlu ar operau sebon, felly cefais fy nghodi ar ‘Dallas’ nes iddo symud i’r ITV a newidiais innau at ‘Eastenders.’ Roedd hyn yn adlewyrchu bywyd ar ein stryd ni gymaint - a finnau’n tyfu lan yn yr ‘East End’ – fel i newydd-deb o wylio ‘Dallas’ ddiflannu’n rhwydd o glywed y ‘twang’ gocni o’r Queen Vic.

Rhyfeddais bryd hynny ar faint o’r storiau oedd yn ddibynnol ar gymeriadau’n camddehongli sefyllfaoedd a’r anrhefn a chymysgwch fyddai hynny’n creu. Yn od iawn, rhain i mi oedd y rhannau mwyaf rhyfeddol – gan feddwl dim am atgyfodiad Bobby yn y gawod! Teimlwn y byddai gair bach yn ei le yn datrys yr holl gamddeall – hyd yn ddiweddar, pryd y gwelaf nawr fod cysylltiadau groes-graen trwy gamddealltwriaeth yn elfen hydreiddiol o fywyd bob dydd.

Mae gyda ni enw ar y ffenomenon hwn yn ein tŷ ni – Kirkuk. Dinas yn Irac yw Kirkuk lle treuliodd tad-cu Marcus amser yn ystod yr Ail Ryfel Byd a daeth ei adfeddiad o gamsyniadaeth i’r amlwg un prynhawn Sul. Arferai rhieni Marcus gynnig gwyliau yn eu cartref ar gyfer oedolion â thrafferthion dysgu a chaed achlysur doniol pan oedd Tad-cu’n disgrifio digwyddiadau yn Kirkuk adeg y rhyfel ac roedd gwestai yn disgrifio’i gampau yn y gegin dan gredu taw trafodaeth ar goginio oedd ar waith. Gadawodd pawb y drafodaeth yn gwbl hapus ac mae’n dal i wneud imi fân chwerthin hyd heddiw, ugain mlynedd yn hwyrach.

Rwyf finnau hefyd wedi canfod fy hun yn defnyddio’r gair anghywir ac yn wir, cefais fy hun yn trafod cario bâd rhwyfo i Lanzarote am hir gan ddisgrifio’r cynlluniau manwl o “cratering” pan taw “container” oeddwn i’n feddwl. Roedd un o’n meibion yn meddwl taw “dehydrant” oedd y ffordd gywir o ddweud “deodorant” tra roedd ein mab ifancaf yn gwbl argyhoeddedig fod yr hybyseb yn dweud fod y cynnwys i’w roi ar y dillad. Fel rwy’n siwr y deallwch, roedd aroglau dynol cryf drwy’r tŷ am ddiwrnodau.

Mae gen i ffrind sy’n gyson camddehongli a chamddeall sefyllfaoedd ac ar achlysur felly y cadarnhawyd ein cyfeillgarwch, pan gyrhaeddodd y ddwy ohonom ar gyfer beth oeddwn yn disgwyl i fod yn grŵp “Mam a Babi” pan mewn gwirionedd, grŵp Bwydo o’r Fron oedd yno. Gan fod y ddwy ohonom yn bwydo o’r botel bryd hynny, daethom (ac rydym yn parhau) yn gyd-gyfrinachwyr mawr.

Yn wir, bu bron i mhriodas gymryd tro tra wahanol pan glywais Marcus yn crybwyll bod yn offeiriad am y tro cyntaf a minnau’n clywed, “police” yn hytrach na “priest.” Rwy’n dal yn ansicr a gefais rhyddhad neu beidio pan ddeallais.