Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Beunydd gyda Duw

Beunydd gyda Duw

Daily_with_God Front Cover

Rwy’n ysgrifennu’r pwt bach hwn gyda golygfa hyfryd yn fy wynebu yn yr ardd – carpedi llon o saffrwn, briallu, eirlys a chennin Pedr yn datgan bod dyddiau hirach a chynhesach ar ddyfod. Mae hi hefyd yn Ddydd Mercher y Lludw, cyfnod o ympryd a disgyblaeth, ond hefyd yn adeg o adnewyddiad ysbrydol hoenus, rhyw ‘wanwyn i’r enaid’. Diolch byth, nid ein hunan-ymwadu eiddil yw craidd y Garawys. Yn hytrach, agor ein hunain i’r hyn mae Duw am ei wneud ynom biau’r sylw: cydweithredu â gwaith grasusol yr Arglwydd yn ein plith.

Yn hyn o beth, mae gan weddi le canolog. Ond sut ddylem ni weddïo? Fel Cristnogion sy’n perthyn i eglwys litwrgaidd nid oes rhaid ymbalfalu am y geiriau ‘cywir’ i fynegi dyheadau ein calonnau gan fod canrifoedd o bobl ffyddlon eisoes wedi saernïo gweddïau llawn dyfnder ac arwyddocâd. Er mwyn agor drysau i’r trysorau amrywiol hyn mae’r Comisiwn Litwrgaidd Ymgynghorol Sefydlog wedi paratoi casgliad hyfryd o adnoddau mewn un gyfrol fach ddwyieithog. Dan y teitl Beunydd gyda Duw / Daily with God mae hwn yn llawlyfr gweddi sy’n ceisio cyflwyno i bobl ar draws yr Eglwys yng Nghymru (a thu hwnt) rywfaint o gyfoeth ein traddodiad litwrgaidd. Y nod yw annog pobl i “arfer geiriau sydd wedi eu treulio’n ffurfiau llyfn a bendithiol o hir ddefnydd ar hyd yr oesoedd” (gan ddyfynnu o ragair yr Esgob Gregory i’r gyfrol). Mae’n cynnwys fersiynau syml o’r Foreol Weddi, yr Hwyrol Weddi a Gweddi’r Nos, ynghyd â sawl gweddi glasurol sy’n annwyl gan Anglicaniaid a nifer o drysorau o’r traddodiad ysbrydol Cymraeg. Un enghraifft yw’r dyfyniad o Lyfr Du Caerfyrddin sy’n agor adran y Foreol Weddi.

Daily with God -Prayer Manuel image

Wrth adrodd y geiriau hyn, sy’n dod o’r casgliad cynharaf o farddoniaeth Gymraeg (o’r drydydd ganrif ar ddeg), unwn ein hunain â chredinwyr yr oesoedd a fu:

Cyntaf gair a ddywedaf,

y bore pan gyfodaf,

Croes Crist yn wisg amdanaf.

Yn ogystal, dangosir ‘naws Gymreig’ y gyfrol drwy gynnwys lluniau trawiadol sy’n adlewyrchu amrywiaeth hardd ein tirlun cenedlaethol.

Cyhoeddir y gyfrol ar Ddydd Gŵyl Ddewi a gellir archebu copïau drwy wefan daleithiol yr Eglwys yng Nghymru. Lansir y llyfr mewn derbyniad rhyngwladol yn y Senedd nos Fercher 6 Mawrth a defnyddir rhai o’r gweddïau yn y Brecwast Gweddi Cenedlaethol y bore wedyn. Bydd copïau hefyd ar werth yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol ym mis Ebrill.

“Gweddïwch yn ddi-baid!” (1 Thesaloniaid 5:17)

Ainsley Griffiths