Hanesion plentydod ficerdy
Eluned Rees remembers adventures, real and imaginary
Mae darllen wedi bod yn rhan bwysig ac amlwg iawn yn fy mywyd. Rwyn gredwr mawr na ddylen ni ddewis beth mae ein plant yn ei ddarllen, ac er bod llawer o lyfrau yn y tŷ, roedd y comics oddi wrth fy mamgu yn y post bob wythnos (pan oedd hi’n rhad i anfon pethau) yn gyffrous. Byddem ein dwy yn rhedeg lawr i ateb y drws i’r postmon, yna rhedeg lan i’n gwelyau, ar fore Sadwrn, i’w darllen o glawr i glawr, June a Judy. Yna trwco â’n gilydd. Amser Nadolig, byddem yn cael ‘Annuals’ gyda clawr sgleiniog.
Bûm yn darllen pob math o lyfrau ers plentyndod. Fe ddeuai’r llyfrgell deithiol i’r pentre pan oeddwn yn fy arddegau, a chofiaf y llyfrgellydd yn gofyn yn dawel i mam a oedd hi’n siŵr y dylwn i gael darllen rhyw lyfr arbennig! Roedd hi’n ddigon hapus, ond yn anffodus, dwyf fi ddim yn cofio pa lyfr oedd e! Rwyn amau os oedd e’n anfoesol iawn.
Roedd trip arbennig gan fy rhieni i Abertawe cyn Nadolig, i brynu llyfr i bob aelod o’r Ysgol Sul, a’r rhai oedd wedi mynychu fwyaf yn cael gwell llyfr! Tasg anodd, gan bod ystod eang o oed a diddordeb. Mae rhai’n dal gyda fi, cofnod gwerthfawr ar flaen pob llyfr, fel y gwelwch o’r llun. Roedd rhai Saesneg a Chymraeg, a dim ond unwaith bu rhywaint o siom pan gefais lyfr o’r enw Margaret Rose, hanes chwaer y Frenhines! Ni fydd rhai ohonoch sy’n fy adnabod yn synnu i mi gywilyddio pan yn hŷn! Wn i beth ddigwyddodd i’r llyfr hwnnw? Hmm…!
Cymaint oedd fy hoffter o lyfrau Enid Blyton nes fy mod yn hiraethu am gael mynd i ysgol breswyl (St Clare’s, Mallory Towers) Ond bu taw ar fy nymuniad wrth i nhad ddarganfod fod modd i ferched offeiriaid gael mynd i Ysgol Howell’s Caerdydd am ddim. Neiwidais fy meddwl a pharhau gyda’r darllen yn unig.. Roedd ein chwarae dychmygus yn dynwared ‘Five go on an adventure/ to an island’ ayb. Gwn bod Enid Blyton allan o ffasiwn erbyn hyn, ac yn chwerthinllyd o ddosbarth-canol, gyda ginger beer a meringues, ond roedd yn ddarllen rhwydd a llawn antur.
Wrth weld y dewis gwych o lyfrau sy gan blant yn y Gymraeg erbyn hyn, rwyn eiddigeddus tu hwnt. Ein llyfrau darllen ni oedd y Llyfr Coch, Glas, Gwyrdd ayb, a Llyfr Mawr y Plant. Dim ond Gwilym a Benni Bach a Teulu Bach Nantoer oedd ein ‘nofelau’.