Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Cwestiwn o Gytbwysedd

Cwestiwn o Gytbwysedd

Carole Hughes [IAWN]

Y mae Rhwydwaith Menywod Anglicanaidd Rhyngwladol (IAWN) yn ceisio trawsnewid strwythyrau anghyfiawn cymdeithas, herio trais o bob math a dilyn heddwch a chymod. Y mae Carole Hughes yn egluro sut.

  • Hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ym mhob ardal o weinidogaeth a gwneud penderfyniadau
  • Rhannu ein safleoedd a storiau ar draws y Cymundeb Anglicanaidd
  • Cefnogi rhai sy’n gweithio i ddiddymu trais ar sail rhywedd, yn cynnwys traffig dynol
  • Dadlau dros addysg a gofal iechyd i fenywod a phlant
  • Dadlau dros ddiddymu tlodi eithafol a newyn, a chamdrin amgylcheddol
  • Hyrwyddo lles corfforol i fenywod a merched
  • Cefnogi grym economaidd cynaladwy menywod

Gallai rhai ddweud bod cyrraedd y blaenoriaethau hyn, a osodwyd gan Grŵp Gweithredu IAWN, yn orchwyl amhosib! Fe fyddai yn wir pe bai un grŵp, un talaith neu un ardal yn ceisio cyflawni’r fath ddyheadau trawsnewidiol. Fel rhwydwaith byd-eang, serch hynny, gallwn ddod â’n gwahanol sgiliau a chyd-destunau amrywiol i’n gweithredoedd, a gyda’n gilydd gallwn wneud camau breision ymlaen.

Y cwestiwn sy’n aros yw ble ydyn ni’n dechrau ac o fewn pa fframwaith a safbwyntiau diwinyddol? Fel cadeirydd IAWN, mynychais gyfarfod Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd yn Ghana i gyflwyno rhai cynigion:

  • Bod trais yn cael ei herio a bod angen i bob rhyw gydweithio er mwyn heddwch a chymod. Nid mater i fenywod yw trais. Y mae gan bawb rôl i’w chwarae.
  • Dathlwch wahaniaethau rhyw. Yr ydym i gyd yn dod â chyfraniadau gwahanol ac amrywiol at y bwrdd. Un o’r materion mewn sawl talaith yn y Cymundeb Anglicanaidd yw cynnwys gwahaniaethau rhyw yn ein swyddi arweinyddol. Y mae’n bwysig cofio taw Mair oedd y cyntaf i gyfarfod y Crist atgyfodedig a’r cyntaf i adrodd y newyddion da.
  • Cydnabod bod yr eirfa ryw a ddefnyddiwn er mwyn y ddynolryw ac er mwyn Duw yn eithrio llawer o bobl, ac yn arwain at strwythurau anghyfiawn. I’w roi yn syml, os yw un rhyw yn domineiddio yn yr iaith a ddefnyddiwn i’n disgrifio ein hunain, ein cymunedau neu Dduw yna gellir rhoi grym i un rhyw dros y llall, hyd yn oed os yw yn ein hïs-ymwybod. Gall grym o’r fath arwain at berthynas anghyfiawn a thrais ar sail rhyw ac eithrio llawer, yn enwedig menywod, mewn arweinyddiaeth.
  • Rhoi ar waith ymarferion Eglwys Ddiogel gyda goddefiad sero o drais a chamdrin. Y mae hyn yn hanfodol wrth iddo ddod yn rhan o’n cyfraith ac yn rhan o’r ffordd yr ydym yn cyd-fyw. Yr ydym yn anelu at gynnig mannau cynhwysol ble y mae heddwch a chymod yn bodoli i bawb.
  • Mentora a chynnig modelau rôl i’n gilydd ac i’r cymunedau o’n cwmpas sy’n cynnwys gwahaniaethau rhyw. Y mae hyn yn csisio gwella hunan-ddeallusrwydd a chodi ymwybyddiaeth ar effeithiau stereoteipiau rhyw niweidiol sy’n cynyddu camdrin ac eithrio.
  • Y mae llawer o’n pobl ifanc yn ein harwain yn yr heriau o gwmpas stereoteipiau ac ogwydd rhyw. Dylem wrando arnynt.

Am fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith ewch i: https://anglicancommunion.org/ neu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/groups/IntAngWomen