Pererin a wnaeth aros
Mae Iain Tweedale yn disgrifio canlyniadau siwrne newid cwrs bywyd …. i Ynys Bŷr
Er i fi gael fy nghodi fel Cristion, fe’i gwrthodais yn fy arddegau a mynd ymlaen â’m mywyd, gan ddewis anwybyddu fy ngwreiddiau. Flynyddoedd yn ddiweddarach fe ddychwelais, yn dilyn cwrs Alffa ysbrydoledig. Fe arweiniodd y cwrs fi i ddod yn ‘Gristion yr Ymennydd’ ond ni ddes i’n ‘Gristion y Galon’ tan f’ymweliad ag Ynys Bŷr.
Roedd y daith ugain munud ar y cwch o Ddinbych y Pysgod wedi fy nghludo i fyd arall, lle main mewn termau Celtaidd, ble mae’r bwlch rhwng y nefoedd a’r ddaear yn fach. Bron y medrwn gyffwrdd â’r heddwch ar y daith o’r lle disgyn i’r pentref. Un diwrnod wrth fynd am dro yn y goedwig, cartref i tua saith deg o wiwerod coch, cefais deimlad anghredadwy o heddwch, empathi a chariad. Yr unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio yw’r profiad o’r Ysbryd Glân ac fe newidiodd bopeth o’m nodau mewn bywyd, drwyddo i’m mywyd o weddi.
Roedd yr un egni ysbrydol wedi denu’r Cristnogion cynnar i’r fynachlog gyntaf ar yr ynys wedi ei sefydlu yn y chweched ganrif. Yr abaty fel y mae nawr yw’r enghraifft orau o bensaernïaeth mudiad Arts and Crafts yng Nghymru ac fe’i sefydlwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf gan Anglicaniaid a oedd yn ceisio adfywio mynachaeth yn Eglwys Loegr. Heddiw mae’r abaty’n gartref i wyth mynach Sistersaidd Pabyddol o’r Arfer Crefyddol Caeth a adnabyddir yn ôl yr enw Trappists.
Wedi dod i adnabod y mynachod, daeth yn amlwg na allai fy nisgwyliadau i o ffordd o fyw caeth a dogmatig fod ymhellach o’r gwir. Gwnaethant fy nysgu sut i gymhwyso rhai o’u harferion megis myfyrdod a lectio divina (darllen dwyfol) i fywyd yn y byd y tu allan ac mae eu doethineb a’u cyfeillgarwch yn ffynhonnell barhaol o dyfiant ysbrydol.
Yn fwy diweddar, rwyf wedi dod i helpu rhedeg yr ynys ac rwyn rhannu’r hyn a ddysgais â rhai o’r 50,000 ymwelydd sy’n dod i’r ynys bob blwyddyn. Fy ngobaith yw y bydd rhai o’r bobl hynny sy’n cyrraedd dim ond fel ymwelwyr yn cael profi egni ysbrydol yr ynys ac yna’n gadael fel pererinion ar eu taith ysbrydol eu hunain. Yng ngeiriau’r Iesu ‘Dewch a Gwelwch’
Mae Ynys Bŷr ar agor o’r Pasg i fis Hydref gyda chychod yn teithio o harbwr Dinbych y Pysgod bob dydd Llun i ddydd Gwener os yw’r tywydd yn caniatáu.
Https:/www.caldeyislandwales.com
Https:/www.facebook.com/caldeyislandwales