Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Eglwys y dyfodol

Eglwys y dyfodol

Yn ein byd dryslyd, rhaid i'r Eglwys ddangos ymrwymiad ac arweinyddiaeth wrth ofalu am ein cartref cyffredin, meddai Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal am y Greadigaeth a Chynaliadwyedd yr Esgobaeth

Yn ôl yn y nawdegau, ysgrifennodd un gwyddonydd gwleidyddol enwog am Ddiwedd Hanes pan ragwelodd y byddai’r mwyafrif o wledydd yn symud tuag at ddemocratiaeth ryddfrydol a chydweithredu rhyngwladol. Yn yr oes sydd ohoni, mae yna naws dywyllach dramor, gyda lledaeniad llywodraethau awdurdodaidd, gwleidyddiaeth dilyn-ein-llwybr-ein-hunain, a systemau naturiol ar fin dymchwel, gan fygwth diwedd mwy trychinebus i hanes. Agwedd braidd yn hunanfodlon yw meddwl y bydd pobl yn ymlwybro i gyfeiriad cyfiawnder a haelioni; rhaid mynd ar drywydd y nodau hyn yn weithredol. Yn yr un modd, byddai'n hunanfodlon meddwl y bydd cenhedloedd a phobl yn ymlwybro tuag at fwy o ofal am y greadigaeth, oherwydd mae hyn hefyd yn rhinwedd y mae'n rhaid gweithio amdano gyda dycnwch ac egni.

Wild Church Jeffreyston

Gyda hyn mewn golwg, fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru ddatgan argyfwng hinsawdd, gan ymrwymo i amserlen frys i ddod yn Eglwys Ddi-garbon, gan ymatal rhag cyfrannu at nwyon tŷ gwydr newydd i'r atmosffer (carbon deuocsid yn bennaf, felly'n ‘ddi-garbon’). Ar hyn o bryd mae adwaith gwleidyddol pwerus yn erbyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gan y rhai sydd eisiau rhyddid heb gyfrifoldeb, sy'n ei gwneud hi'n hanfodol ein bod ni'n parhau'n gadarn.

Bydd bod yn ddi-garbon yn golygu lleihau'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio wrth wresogi a theithio, sicrhau'r pŵer rydyn ni'n ei ddefnyddio o ffynonellau adnewyddadwy, cynhyrchu rhywfaint o’n hynni adnewyddadwy ein hunain, ac yn ôl pob tebyg cefnogi plannu coed i amsugno unrhyw allyriadau carbon na allwn eu hosgoi. Bydd angen aildrefnu ein blaenoriaethau a'n harferion, ond i gyfeiriadau yr ydyn ni eisoes yn gyfarwydd â nhw yn ein bywydau bob dydd. Mae dod yn ddi-garbon yn dasg enfawr i ni fel sefydliad, a bydd angen i ni, mewn gostyngeiddrwydd, dderbyn help a chyngor gan y byd seciwlar i gyrraedd yno.

Ond nid byw di-garbon yw'r unig flaenoriaeth wrth ofalu am ein Daear. Mae gan yr Eglwys gymaint i'w gynnig i'r byd yn ei dro, trwy ein dealltwriaeth o'r Ddaear fel rhodd, gyda ninnau yn geidwaid nid perchnogion, gyda phob un o blant Duw yn allweddol i wireddu cyflawnrwydd y Deyrnas. Yn yr un modd, trwy fodelu hyfrydwch yn y greadigaeth gan ofalu am y tir rydyn ni'n ei reoli, creu gardd Eden fechan er gogoniant i Dduw ac adfywiad ein heneidiau. A thrwy ein cydnabyddiaeth mai cariad Iesu yw'r union ynni y tu ôl i'r holl greadigaeth, yr ynni sy'n symud y sêr ac yn gyrru esblygiad, yn wir y nod y mae'r greadigaeth yn symud tuag ato (Col. 1: 15-18) a'r ffordd rydyn ni’n cyrraedd yno. Gadewch i ni obeithio y bydd llais yr Eglwys yn cael ei glywed yn fwy clir.