Achub Ysbyty Bronglais

Eich ysbyty, eich gwasanaeth iechyd: dweud eich dweud
Mae'n ymddangos, bob rhyw bum mlynedd, ein bod yn gweld mwy o newidiadau iechyd arfaethedig ar y gorwel. Mae Hywel Dda yn bendant bod hyn yn ymwneud â gwasanaethau iechyd gwell a mwy diogel, ond fel sy'n digwydd yn aml, fydd y gwasanaethau hyn ddim ar gael i ni gael mynediad atyn nhw yn agos at ein cartrefi. Lisa Francis, Cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, sy’n amlinellu'r cynigion ac yn ein hannog ni i gyd i gymryd rhan
Y tro hwn mae'r ymgynghoriad, (a fydd ar y gweill tan 21 Awst), yn ymwneud ag ail-drefnu naw disgyblaeth glinigol ar draws yr ardal.
Os bydd y newidiadau'n cael eu mabwysiadu, bydd Ysbyty Bronglais Aberystwyth (sy'n gwasanaethu cleifion mor bell â Thywyn, Caersws a Rhaeadr Gwy), yn gweld newidiadau niweidiol i'w Uned Strôc ardderchog. Mae hyn yn golygu y bydd cleifion strôc a dderbynnir i Fronglais i ddechrau yn cael eu hanfon bron yn syth ymlaen i naill ai Llwynhelyg, Hwlffordd neu i Lanelli i'w hadsefydlu. Penderfyniad creulon sydd heb ei ystyried yn fanwl; mae adsefydlu cleifion strôc yn llwyddiannus yn dibynnu i raddau helaeth ar ofal a chefnogaeth ysgogol anwyliaid a byddai hyn yn golygu taith yn ôl ac ymlaen o 200 milltir i lawer sy'n ymweld â chleifion. Does dim cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol a bydd ymweld yn amhosib i'r rhai heb gar.
Mae clinigwyr wedi disgrifio'r cynllun fel un peryglus. Mewn cyfarfod cyhoeddus fis Ionawr diwethaf, cyfaddefodd hyd yn oed Prif Weithredwr y Bwrdd ei hun fod y cynlluniau yn anghyflawn. Nawr, gyda'r ymgynghoriad ar y gweill, does dim unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â sut y bydd cleifion strôc yn cael eu trosglwyddo neu eu dychwelyd yn ôl i'w cartrefi, neu sut y bydd cydgysylltu teuluol mewn perthynas â'u rhyddhau. Yn ôl Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel, Uned Strôc Ysbyty Bronglais yw'r uned sy'n perfformio orau o'r holl unedau strôc yn ardal Hywel Dda. Felly pam y newid? Os yw'r Uned Strôc ym Mronglais yn sgorio'r marciau uchaf, yna pam na ellir defnyddio arian i'w gwella ymhellach? Mae wir yn anodd deall meddylfryd y Bwrdd Iechyd yn hyn i gyd, heblaw ei bod yn ymddangos bod ganddyn nhw obsesiwn am ehangu ei ymerodraeth ymhellach i'r de yn agosach at bencadlys eu pŵer.
Byddwn yn annog pawb sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ymateb i'r ymgynghoriad hwn; peidiwch â gadael iddo lithro heibio heb godi’ch llais.
Mae angen eich cefnogaeth ar Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais yn ein cyfarfod cyhoeddus nesaf a gynhelir ddydd Gwener, 20 Mehefin am 7pm yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Yn y cyfamser, parhewch i lenwi ein Harolygon Teithio Cleifion a Straeon Cleifion (gellir gwneud hyn yn ddienw) ar ein gwefan, www.protectbronglais.com