Cofio’r Gwenllian
![Gwenllian Memorial [Snowdon]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Sept-22-3-Medium-800x583.width-500.jpg)
Ar 12fed o Hydref 1278 priodwyd Llywelyn ap Gruffydd ( ein Llyw Olaf) Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri, ag Eleanor de Montford ( merch Simon de Montford) ar risiau Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.
Roedd mam Eleanor yn ferch i Harri’r 3ydd , a’i thadcu oedd Brenin John o Loegr. Yn bresennol yn y briodas oedd Alecsander, Brenin yr Alban ac Edward 1af o Loegr, cefnder y briodferch. I ddathlu’r digwyddiad gosodwyd ffenest liwgar yn y Gadeirlan…sydd yw gweld o hyd. Bu dathlu ac anrhegu hael ond doedd dim parhad i’r cyfeillgarwch yma!
Yn 1282 yng Ngarthcelyn ger Bangor, ganwyd Gwenllian, unig blentyn Eleanor a Llywelyn. Yn drist iawn bu farw Eleanor ar enedigaeth Gwenllian. Roedd y baban yn olyniaeth teulu Tywysogion Cymru, ac roedd Edward yn ei gweld yn fygythiad i’w Goron. Chwe mis yn ddiweddarach trefnodd ef i Lywelyn gael ei lofruddio , a hynny ger Llanfair-ym-muallt. Gwnaeth Edward fradychu’r Cymry wedi iddo addo y byddai’r milwyr yn ardal Cilmeri ),droi tuag adre’n dawel , ni fyddent mewn unrhyw berygl,ond fe lofruddiwyd 3,000 o Gymry .Aeth blwyddyn cyn i Edward fentro droedio yng Nghymru eto, ac mi roedd yn gyfnod bregus i’r Saeson!
Trefnodd Edward i Wenllian, y ferch amddifad, gael ei chipio pan oedd tua deunaw mis oed a’i hanfon i Briordy ar dir Abaty Sempringham yn Swydd Lincoln.
Bu’n gaeth yno am 54 o flynyddoedd yn lleian, heb hawl i gael ymwelwyr nag anrhegion na gadael y lle . Dyma lle bu hyd ei marw yn 1337, yn 54 oed, heb wybod am ei theulu nac am Gymru . Dyma ffordd Edward i sicrhau na fyddai dilyniant i linach Tywysogion Cymru
Yn 1991 ysgrifennodd Byron Rogers erthygl mewn papur newydd o dan y pennawd “ The Lost Children”a ddarllenwyd gan Richard Turner, hen gapten llong yn 1993, ac fe drefnodd fod cofeb i Wenllian yn cael ei gosod yn Sempringham.
Erbyn 2001 roedd y gofeb yn dadfeilio ond fe godwyd cofeb newydd drwy haelioni nifer o Gymry, o dan ofal Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian
Gwaith Ieuan Rees, y cain-lythrennwr byd enwog o Sir Gar, yw’r gofeb. Hefyd lluniwyd Llechen Deyrnged a’i rhoi ger copa’r Wyddfa.
Er fod yna ganu cerddi a defodau sifalri yn y Brydain Canol oesol, roedd yn gyfnod o greulondeb dwys a chaledi. Mae mor bwysig felly ,nad anghofiwn hanes y Cymry dewr drwy’r oesoedd.