Haf o rialtwch

Mae Richard Davies yn ystyried hanes Eglwys San Pedr, Newcastle Fach, ac yn edrych ymlaen at gyfres o ddigwyddiadau pen-blwydd yn 150 oed
Pan olynodd Parch Arthur Richardson ei ewythr, Parch Peter Davies Richardson, fel ficer Casnewydd- Bach yn 1866, un o’r tasgau cyntaf a oedd yn ei wynebu oedd cyflwr gwael eglwys y plwyf. Yr oedd gan San Pedr hanes digon cyfnewidiol yn barod: yr oedd y strwythur canoloesol mwy na thebyg wedi cynnwys corff, eil gogleddol a changell, ond yr oedd yr eil ogleddol wedi ei cholli mwy na thebyg yn yr unfed neu ail ganrif ar bymtheg a llanwyd y ddwy arcêd gron.
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ceisiwyd gwella cyflwr yr adeilad: un rhan o’r arcêd yn cael ei hail-agor a chwarter yr eil ogleddol wedi ei hadennill. Serch hynny, am wahanol resymau, yr oedd yr adeilad a ymddangosodd o ansawdd isel iawn a hynny a orfododd Arthur Richardson i gychwyn y trydydd adferiad mewn llai na saith deg mlynedd.
Lluniodd y Pensaer Esgobaethol, E H Lingen Barker gynllun chwildroadol: collwyd yr eil ogleddol, gwnaeth y corff yn hirach ac yn fwy llydan ac ychwanegwyd cyntedd a festri. Cafwyd caniatâd yn 1870, ond ni ddechreuwyd ar y gwaith tan hydref 1872 a roedd y gwaith mewn dwy ran, mwy na thebyg am resymau ariannol. Er yn bensaerniol anenwog, y mae’r strwythur yn fodel gwerslyfr o beth y tybiai eglwyswyr cyfoes y dylai eglwys ‘iawn’i fod gyda rhaniad tair rhan esgynedig o gorff, cangell a chysegr ac addurniad (cyfyng) i ychwanegu at y ‘theatr o addoliad’. Gyda gosod y pulpud ac organ un bob ochr i fwa’r gangell, yr oedd gan bob addolwr olwg heb ei chyfyngu o’r allor.
Ar Orffennaf 21, 1875, pregethodd Basil Jones, Esgob Tyddewi ar y pryd, ar ail-agoriad yr eglwys, a’r Gorffennaf hwn, bron i 150 mlynedd i’r diwrnod, bydd Esgob Dorrien yn pregethu yng ngwasanaeth y Penblwydd, a chinio dathlu i ddilyn. Ei ymweliad bydd uchafbwynt y dathliadau, ond y mae llawer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu drwy’r flwyddyn i nodi’r garreg filltir hon yn hanes yr eglwys, sydd yn barod wedi cynnwys darlith am yr eglwys 1840au, ymweliad gan Ymddiriedolaeth Adeiladau Hanesyddol Sir Benfro, tra bydd taith Sul y Gweddiau yn daith o dan arweiniad o gwmpas y fynwent yn tanlinellu’r nifer o bobl diddorol a phwysig sy wedi eu claddu yno. Yn nes ymlaen yn yr haf, ymysg pethau eraill, bydd yr eglwys yn fan i ddau digwyddiad a drefnwyd gan Ŵyl Gerdd Abergwaun, yn cymryd rhan yng Nghynllun Drysau Agored ym mis Medi ac yn yr Hydref Cymanfa Cynhaeaf i helpu codi arian gogyfer â’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir flwyddyn nesa yn Sir Benfro.